Mae Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010 wedi ei gyhoeddi ac eleni bydd cyfle i’r cyhoedd ddewis eu hoff lyfr Cymraeg.

Cafodd y rhestr hir o ddeg llyfr Cymraeg eu cyhoeddi yn Ganolfan Rheolaeth Bangor heno ‘ma, ar ôl cael eu dewis gan y beirniaid John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans a Branwen Gwyn.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, bydd cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff lyfr Cymraeg o restr hir llyfr y flwyddyn ar wefan newyddion Golwg360.

Mae’r bleidlais yn agor heno, dydd Mawrth 20 Ebrill, am 7:30pm, wedi i’r rhestr hir gael ei lansio gan yr Academi ym Mangor.

Fe fydd y bleidlais yn cau ar ddydd Gwener 25 Mehefin, a bydd y gyfrol sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau yn ennill Tlws Barn y Bobl Golwg360.

Y cyfrolau sydd ar y brig

Dwy gyfrol o gerddi sydd wedi cyrraedd y rhestr hir: Banerog gan Hywel Griffiths, sy’n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru; a Llwybrau, casgliad cyntaf o gerddi Haf Llewelyn.

Mae’r awduron Manon Steffan Ros, Sian Owen a Siân Melangell Dafydd yn hawlio eu lle yn y deg uchaf gyda’u nofelau cyntaf i oedolion, Fel Aderyn, Mân Esgyrn ac Y Trydydd Peth.

Ymysg y goreuon eleni hefyd mae Naw Mis, clamp o nofel gan Caryl Lewis, am ddiflaniad merch, a nofel ddirgelwch Cefin Roberts, Cymer y Seren.

Casgliad o straeon, cerddi a llên meicro sydd gan Manon Rhys yn ei chyfrol Cornel Aur a llwyddodd D. Densil Morgan i gyrraedd y rhestr gyda’i astudiaeth ar waith Lewis Edwards, un o ysgolheigion mwyaf Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae cyfrol gynhwysfawr John Davies, Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw, yn hawlio’i lle ymhlith y goreuon hefyd.

“Credaf fod y Deg Uchaf eleni yn groestoriad arbennig o’r holl rychwant o lyfrau Cymraeg sydd ar gael bellach, gyda bri arbennig ar ryddiaith doreithiog eleni. Gwelwn yma gyfrolau coeth eu mynegiant a chyfoes eu sefyllfaoedd,” meddai Aled Lewis Evans, un o’r beirniaid ar y panel Cymraeg.

“Hefyd barddoniaeth gaeth a rhydd, a llyfrau ffeithiol difyr ag ôl ymchwil trwyadl arnynt. Credaf y gallwn ymfalchïo yn y Deg Uchaf eleni, a mwynhau a sawru safon bob un o’r cyfrolau.”

Cyfle i chi bledleisio

Ond nid y beirniaid yn unig sy’n cael dweud eu dweud. Eleni, bydd barn y bobl yn cyfrif a bydd cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefryn o blith y Rhestr Hir.

Bydd awdur y llyfr gorau ym marn y bobl, o’r rhestr hir Gymraeg yn derbyn tlws Golwg 360 a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y Seremoni Fawreddog.

“Rydym yn hynod falch i fod yn cydweithio gyda’r Academi i gynnal y bleidlais ar Golwg360,” meddai Prif Weithredwr Golwg360, Owain Schiavone.

“Dwi’n siŵr fod ennill gwobr Barn y Bobl yn gallu bod yn hwb mawr i awdur, ac mae gweld y cyhoedd yn bwrw pleidlais dros eu cyfrolau yn dangos gwerthfawrogiad o’u gwaith caled.

“Rydan ni’n gobeithio gallu rhoi sylw i’r holl lyfrau sydd ar y rhestr hir dros yr wythnosau nesaf, a byddwn yn annog darllenwyr Golwg360 i fynegi eu barn trwy anfon eu hadolygiadau hwy o’r cyfrolau i ymddangos ar y wefan.”

Cyhoeddir y Rhestr Fer o dri theitl yr un yn y ddwy iaith mewn digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli ar ddydd Sul 6 Mehefin 2010. Cynhelir Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2010 ar nos Fercher 30 Mehefin 2010 am 7.00 pm yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Y Rhestr Hir Gymraeg

Banerog gan Hywel Griffiths (Y Lolfa)

Detholiad o gerddi caeth a rhydd gan y bardd a’r ymgyrchydd gwleidyddol, Hywel Griffiths. Mae’r gyfrol yn cynnwys cerdd fuddugol y Goron a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008. Mae’r pynciau’n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.

Cornel Aur gan Manon Rhys (Gwasg Gomer)

Casgliad o straeon, cerddi a llên meicro. Dyma gyfrol hirddisgwyliedig, annisgwyl Manon Rhys, awdur Cwtsho, Cysgodion, Tridiau ac Angladd Cocrotshen, Y Palmant Aur, ynghyd â’r nofel Rara Avis a gyrhaeddodd Restr Fer Llyfr y Flwyddyn, 2006.

Cymer y Seren gan Cefin Roberts (Gwasg Gwynedd)

Nofel ddirgelwch i oedolion. Trwy gyfres o ddigwyddiadau cyffrous, aiff Cefin Roberts â ni o bentref bach tawel yn Arfon i un o ddinasoedd llawn rhamant yr Eidal. Mae Emrys Pritchard wedi bod yn ei feio’i hun byth ers diflaniad ei unig ferch, Mari Lisa – cannwyll ei lygad – ac mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth iddo ar ôl i Carys, ei wraig, ei adael.

Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw gan John Davies (Y Lolfa)

Cyfrol gynhwysfawr sy’n sôn am 100 o lefydd yng Nghymru y mae’n rhaid i chi ymweld â nhw, yn ôl yr hanesydd John Davies. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy’n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorbŷr; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion.

Fel Aderyn gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Nofel sy’n dilyn hynt a helynt Mina a’i theulu yn ystod yr ugeinfed ganrif. Cawn hanes ei mam a’r modd y collodd ei gŵr yn yr Ail Ryfel Byd. Cawn hefyd stori Sybil, sy’n dod yn feichiog yn dilyn perthynas gydag athro, yn ogystal â Leusa, merch i bysgotwr, sy’n cael bywyd caled ar ôl cael ei cham-drin gan ei thad. Nofel gofiadwy wedi’i lleoli yn ardal Tywyn/Aberdyfi.

Lewis Edwards gan D. Densil Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru)

Astudiaeth gynhwysfawr o waith Lewis Edwards (1809-87), pennaf ysgolhaig Cymru’r bedwaredd ganrif bymtheg ac un a gododd safonau y Gymru Ymneilltuol a’u gosod ar seiliau dysg rhyngwladol. Yn Fethodist Calfinaidd o ran ei fagwraeth a’i argyhoeddiadau, yfodd yn ddwfn o dduwioldeb ei gyfnod.

Llwybrau gan Haf Llewelyn (Cyhoeddiadau Barddas)

Dyma gyfrol cyntaf y bardd o Ardudwy, Haf Llewelyn. Casgliad o gerddi ar destunau amrywiol a geir yn y gyfrol gyda llawer ohonynt yn rhai personol sydd wedi’u dylanwadu gan hanes a daearyddiaeth y gymdeithas amaethyddol lle’i magwyd.

Mân Esgyrn gan Sian Owen (Gwasg Gomer)

Nofel a dderbyniodd glod uchel yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2009. Nofel afaelgar, grefftus am ddiffyg cyfathrebu. Stori gyfoes am Carol, gwerthwr tai 39 oed sy’n dychwelyd i’r dref lle cafodd ei magu. Yno mae’n ailgyfarfod â Helen sy’n gweithio yn y gwaith cemegol lleol, a Luc, archeolegydd.

Naw Mis gan Caryl Lewis ( Y Lolfa)

Mae’n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw … Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a’i chymuned. Dyma nawfed nofel yr awdures a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i chyfrol Martha, Jac a Sianco.

Y Trydydd Peth gan Siân Melangell Dafydd (Gwasg Gomer)

Mae George Owens yn 90 oed ac yn myfyrio ar natur dŵr: ar yr H a’r O, ond hefyd ar y “trydydd peth” annirnad hwnnw sy’n gwneud dŵr yn ddŵr. A dyma olrhain hanes perthynas George ag enghraifft benodol o’r elfen honno, sef afon fawr ei gynefin, afon Dyfrdwy. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau, 2009.

Y Rhestr Hir Saesneg

A Single Swallow gan Horatio Clare (Chatto & Windus)

Self-Portrait as Ruth gan Jasmine Donahaye (Salt Publishing)

I Spy Pinhole Eye gan Philip Gross (Cinnamon Press)

The Woman at the