Tîm Ysgol Gymraeg Llundain yn Stadiwm Twickenham ar ddechrau'r ras
Yn ddiweddar, cymerodd tîm yn cynrychioli Ysgol Gymraeg Llundain ran mewn ras elusennol arbennig o Lundain i Gaerdydd. Roedd Lisa Mildon yn un ohonyn nhw, a hi sy’n adrodd yr hanes…

Mewn ennyd o wallgofrwydd, fe benderfynodd 12 o rhieni a ffrindiau Ysgol Gymraeg Llundain, ymgeisio ar y ras gyfnewid 24 awr galed  o Lundain i Gaerdydd ar yr 17 a 18 Mehefin.

Dechreuodd y ras gyda chylch o’r cae yn Nhwickenham ar y nos Wener ac wedyn fe redon drwy gydol y nos, ar hyd Cefnenau y Cotswolds, dros yr hen Bont Hafren ac ar hyd arfordir De Cymru gan orffen yn Stadiwm y Mileniwm Nos Sadwrn.

Roedd y tîm yn cynnwys, nid yn unig y rhedwyr ond hefyd tîm o gefnogwyr yn y moduron oedd yn dilyn y rhedwyr drwy gydol y nos.  Y llynedd, dim ond dau dîm orffennodd – un o’r fyddin ac un o glwb rhedeg!  Eleni ymgeisiodd deuddeg o dimau, fe orffennodd naw a daethom ni, “Y Dwsin Drwg” yn drydydd!

Dyma rai o’r ffeithiau:

Cyfanswm milltiroedd swyddogol (yn debygol o fod yn fwy!) = 158 o filltiroedd

Amser dechrau = 20:25 Nos Wener 17 Mehefin 2011

Amser gorffen = 21:51 Nos Sadwrn 18 Mehefin

Cyfanswm oriau = 25awr 26munud 40eiliad

Cyfartaledd = 9.4 milltir / mun

Ysgol fach annibynnol yng Ngogledd Llundain sydd yn cynnig addysg Gymraeg i blant o bedair i un ar ddeg oed ydy’n ysgol ni. Eleni mae 33 o ddisgyblion yn yr ysgol a 10 yn y Cylch Meithrin. Cynhelir Cylch Chwarae bob dydd Gwener. 

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn derbyn rhywfaint o gymorth ariannol gan Fwrdd Yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Serch hynny, mae angen cefnogaeth mawr ar yr ysgol i oroesi ac i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r plant.  Mae’r plant yn weithredol yn y gymuned Gymreig – yn cael profiadau gwych fel cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a pherfformio yng ngwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi yn San Steffan. 

Mae’r ysgol hefyd wedi bod yn brysur yn ei chymuned leol yng Ngogledd Llundain.  Os hoffech fwy o wybodaeth am yr ysgol, ymwelwch â www.ysgolgymraegllundain.ik.org

Os hoffech fwy o wybodaeth am y ras, mae i’w gael ar www.londoncardiff24.co.uk Os hoffech chi gyfrannu, ymwelwch â  virginmoneygiving.com/charities/ysgolgymraegllundain mi fyddem ni a Cancer Research UK yn ddiolchgar dros ben!