Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a fydd penderfyniad y Times i godi tâl ar ddarllenwyr eu gwefan yn lwyddiant…

Cyhoeddodd papur newydd y Times yr wythnos hon eu bod nhw’n mynd i ddechrau codi tâl ar ddarllenwyr eu gwefan.

Dyw’r £2 yr wythnos ddim yn swnio’n lot fawr – tan eich bod chi’n gwneud eich syms a sylweddoli ei fod o’n dros ganpunt y flwyddyn.

Mae’r syniad wedi cael ymateb lled-negyddol hyd yma a dw i’n tueddu i gytuno. Y cwestiwn sylfaenol yw pam y byddai rhywun yn talu am wybodaeth sydd ar gael rywle arall?

Y broblem gyda phenderfyniad y Times yw ei fod o’n mynd yn erbyn y lli. Dros y blynyddoedd diwethaf mae pobol wedi dod i ddisgwyl cael eu newyddion am ddim a dw i ddim yn credu y bydd y darllenydd cyffredin yn derbyn gorfod talu amdano byth eto.

Erbyn hyn mae hyd yn oed papurau newydd yn dechrau cynnig eu hunain am ddim – ‘freesheets’ fel y London Evening Standard – er mwyn cynyddu eu cylchrediad a gwneud eu helw drwy hysbysebion yn lle gwerthiant.

Dw i’n deall pam fod y Times wedi penderfynu codi tâl. Mae newyddiaduraeth o safon yn gostus, ac os nad ydi pobol yn fodlon talu amdano allen nhw ddim cwyno pan mae’r safon yn mynd i lawr y draen.

Ac heb unrhyw fath o elw mae yna beryg y bydd pob papur newydd a’u gwefannau yn mynd i ddwylo unigolion cyfoethog fydd naill ai yn eu cadw nhw fel arwydd o statws (fel perchennog ambell i glwb pêl-droed) neu’n gorfodi eu barn eu hunain ar y tîm golygyddol.

Ond fel y mae hi mae’r Times ychydig fel milwr yn rhedeg allan i ganol Tir Neb. Mae’n siŵr o gael ei saethu i lawr yn y fan a’r lle.

Yr unig ateb hyd y gwela’ i yw bod pob cwmni papur newydd Prydeinig sydd â gwefan yn dod i gytundeb i orfodi darllenwyr i dalu i ddarllen eu cynnwys.

Ond hyd yn oed wedyn byddai gwefan Saesneg anferth y BBC yn dal i ddarparu’r un gwasanaeth ar gefn y ffi leisans. A dw i’n siŵr y byddai yna wefan am ddim yn ymddangos i lenwi’r farchnad.

Penderfyniad dewr, ond efallai yn ffôl, gan y Times felly. Bydda i’n gobeithio am lwyddiant ond yn ofni’r gwaethaf.

Dw i’n hoff iawn o wefan y Times. Ond a fydda i’n talu? Dw i ddim yn meddwl, dim tra bod y gwefannau’r Guardian, Telegraph, a’r Independent ar gael am ddim.