Mae llefarydd ar ran pennaeth yr Eglwys Babyddol yn Iwerddon wedi gwadu bod y Fatican yn galw am ei ymddiswyddiad.
Yn ôl cynrychiolydd y Cardinal Sean Brady, roedd yr honiadau mewn papur newydd yn Lloegr “islaw sylw” wrth i’r Eglwys baratoi at wythnos y Pasg.
Papur y Times oedd wedi honni bod y Cardinal wedi colli cefnogaeth y Fatican ar ôl honiadau ei fod wedi methu â gwneud digon i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin gan offeiriaid.
Er bod y Cardinal wedi ymddiheuro am ei ran yn cuddio rhai o’r achosion, mae’n cael ei herio gan ddyn sy’n dweud ei fod wedi cael ei gam-drin.
Brendan Smyth
Roedd Sean Brady yn rhan o achosion disgyblu yn erbyn un o’r troseddwyr rhywiol gwaetha’, y Tad Brendan Smyth.
Yr honiad yw ei fod yn rhan o’r penderfyniad i sicrhau tawelwch plant oedd wedi’u cam-drin, gan ganiatáu i’r offeiriad fynd yn ei flaen i gam-drin am flynyddoedd wedyn.
Yn ôl y Cardinal, mae eisiau datrys yr achos ond mae rhai sylwebyddion wedi awgrymu y gallai ymddiswyddo ar ôl y Pasg.
Mae’r Pab ei hun wedi dod dan bwysau oherwydd honiadau ei fod yntau wedi methu â gweithredu’n ddigon cry’ tros gam-drin plant pan oedd yn Gardinal yn yr Almaen.
Llun: Cardinal Sean Brady (Gwifren PA)