Fe fydd Prif Weinidog Gwlad Thai’n cyfarfod gyda miloedd o brotestwyr democratiaeth yn y wlad.

Fe fu Abhisit Vejjajiva ar y teledu y bore yma i gyhoeddi ei fod wedi cytuno gyda galwad y protestwyr am drafodaethau “er mwyn adfer heddwch a lleihau’r peryg o drais”.

Ers mwy na phythefnos, mae degau o filoedd o brotestwyr mewn crysau coch wedi gosod gwarchae o amgylch y gwersyll milwrol lle mae canolfan y Llywodraeth.

Yn ystod y dyddiau diwetha’, maen nhw wedi gorfodi milwyr i symud o adeiladau allweddol yn Bangkok.

Maen nhw wedi gwadu mai nhw sy’n gyfrifol hefyd am gyfres o ffrwydradau yn y ddinas.

Galw am etholiad

Y Crysau Coch oedd wedi galw am drafodaethau ac maen nhw’n mynnu bod rhaid i hynny gynnwys trafod etholiadau newydd.

Maen nhw eisiau gweld cyn Brif Weinidog y wlad, Thaksin Shinawatra, yn dod yn ôl – roedd wedi ei ddisodli yn 2006 ynghanol cyhuddiadau o lygredd.

Ddwyawr cyn ei gyhoeddiad, roedd y Prif Weinidog wedi mynnu na fyddai’n ildio i bwysau’r protestwyr.