Mae’r streiciau ym maes trafnidiaeth wedi sbarduno papur mwya’ gwledydd Prydain i droi cefn ar y Blaid Lafur.
Wrth i’r Ceidwadwyr gyhuddo’r Llywodraeth o wendid, mae’r News of the World wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi’r Torïaid yn yr etholiad sy’n debyg o ddigwydd ar Fai 6.
Mae angen newid, meddai colofn olygyddol y papur Sul, sy’n dilyn yn ôl troed y Sun, ei chwaer bapur, trwy adael y Blaid Lafur ar ôl eu cefnogi yn y tri etholiad diwetha’, yn 1997, 2001 a 2005.
Maen nhw’n rhybuddio rhag “rhuthro’n ôl i ddyddiau Hen Lafur” gyda “rhaniadau, streiciau a cholli cyfle”.
Er bod y papur yn rhybuddio bod rhaid i’r Ceidwadwyr wneud llawer i egluro’r hyn y maen nhw am ei wneud ac argyhoeddi pobol, mae’n dweud hefyd eu bod yn haeddu cyfle.
Streiciau
Y streic gan weithwyr BA a’r streic arfaethedig gan weithwyr rheilffordd sydd wedi mynd â sylw’r arweinwyr mewn rhaglenni teledu heddiw.
Roedd arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, yn honni bod yr undebau wedi synhwyro “gwendid” yn agwedd y Llywodraeth.
Gwadu hynny a wnaeth y Prif Weinidog, Gordon Brown, gan ailadrodd ei farn nad yw streic BA yn gwneud “lles i neb”.
Roedd yn honni bod llai o wrthdaro diwydiannol wedi bod yn ystod cyfnod y Llywodraeth Lafur nag yng nghyfnod y Ceidwadwyr.