Fe fydd y paffiwr Joe Calzaghe yn parhau gyda’i waith elusennol er gwaetha’ cyfaddefiad ei fod yn defnyddio’r cyffur anghyfreithlon, cocên.
Mae’r Cymro o Cefn Bychan wedi cyhoeddi ymddiheuriad ar ei wefan ar ôl i bapur newydd y News of the World ei dwyllo i siarad am ei arferion.
Roedd gohebwyr y papur wedi esgus siarad ar ran pobol fusnes o Rwsia ac wedi denu’r paffiwr diguro i sgwrsio’n rhydd, gan gynnwys prynu a defnyddio cocên.
Ar ei wefan, mae Calzaghe’n ymddiheuro am “ddefnydd achlysurol” o’r cyffur yn ystod y dyddiau ers ymddeol. Mae rhai o’r dyddiau hynny, meddai, wedi bod “yn hir iawn”.
Mae’n gwadu bod cocên yn “broblem fawr yn ei fywyd” a’i fo dyn “delio â hi” – er bod y News of the World yn honni ei fod yn dangos arwyddion defnydd trwm o’r cyffur.
‘Trafod’
Fe ddywedodd y paffiwr ei fod wedi trafod gyda chynrychiolwyr y mudiadau y mae’n eu helpu – gan gynnwys yr elusen Help for Heroes – a’u bod nhw yn ei gefnogi.
Roedd y sgyrsiau gyda’r gohebwyr wedi eu ffilmio ac wedyn eu dangos i gynrychiolwyr Calzaghe ac i’w dad, Enzo.
Yn ôl y paffiwr, roedd diodydd yn llifo yn ystod y sgyrsiau yn Llundain a Los Angeles ac roedd llawer o’r siarad, o ganlyniad, yn “falu awyr”.
Llun: Joe Calzaghe – y llun sydd gyda’r ymddiheuriad ar ei wefan