Fe ddaeth Heddlu Gwent o hyd i fam y babi a fu farw yng Nghwm Carn ganol y mis.

Yn ôl datganiad, mae’r wraig ifanc yn ei hugeiniau ac yn dod o ardal Risca gerllaw.

Mae wedi cael ei harestio a’i holi ar amheuaeth o guddio genedigaeth babi ac fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Daethpwyd o hyd i’r babi newydd anedig y tu ôl i siop Spar yn y pentre’ sydd rhyw ddwy filltir o Risca, a hynny ar 18 Mawrth. Fe fu farw yn yr ysbyty.

Roedd yr heddlu wedi cyhoeddi manylion am y dillad a’r lliain a oedd am y babi ar y pryd ac maen nhw wedi diolch i bobol leol am eu cymorth.

Yn ôl yr heddlu, fe fu plismyn a swyddogion meddygol yn holi’r fam ac mae hi a’i theulu’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Fydd dim rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi am y fam na’r digwyddiad, meddai llefarydd.

Llun: Rhan o’r lliain oedd am y babi