Beth sydd wedi digwydd i Blaid Cymru?
Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae eu cyfnod nhw mewn grym dros y pedair blynedd diwethaf yn cael ei ystyried yn dipyn o lwyddiant o fewn y Blaid ac ymysg sylwebwyr gwleidyddol. Er mai nhw oedd y blaid lai yn y glymblaid â’r Blaid Lafur, fe lwyddon nhw i gyflawni’r rhan fwyaf o bethau oedden nhw ei eisiau  ei gyflawni, gan gynnwys cynnal y refferendwm ar ragor o ddatganoli cwta fis yn ôl, ac mae eu gweinidogion wedi bod yn rhan amlwg ag effeithiol o’r Cabinet.

Yn ôl y blaid eu hunain yn eu cynhadledd dros y penwythnos, mae eu cyfnod mewn grym wedi rhoi hygrededd iddyn nhw. Mae’r pleidleiswyr bellach yn gwybod eu bod nhw’n blaid sydd o ddifri a bod modd ymddiried ynddyn nhw i redeg y wlad.

Felly pam eu bod nhw mor bell ar ei hol hi yn y polau piniwn, ac yn parhau i syrthio? Un ateb, wrth gwrs, yw’r glymblaid yn San Steffan. Yn syml, mae pobol yn credu y bydd y Blaid Lafur yn darian fwy effeithiol wrth eu hamddiffyn nhw rhag y toriadau yn Llundain. Mae’r Blaid Lafur yn wrthblaid yn San Steffan, yn wahanol i Blaid Cymru sy’n amherthnasol yno. Etholiad Prydeinig yw hwn – a dim ond y Blaid Lafur all ein hachub ni rhag y toriadau milain ‘na.

Ateb arall yw mai eithriad oedd Etholiad y Cynulliad yn 2007. Roedd y Blaid Lafur yn mynd drwy gyfnod amhoblogaidd iawn, ac roedd sawl un fyddai wedi pleidleisio drostyn nhw wedi pleidleisio dros Blaid Cymru er mwyn rhoi cic iddyn nhw. Yr oll sy’n digwydd eleni yw bod pethau’n mynd yn ôl fel yr oedden nhw.

Y trydydd rheswm, o bosib, yw canran isel y Cymry sy’n darllen newyddion am Gymru. Mae pobol yn darllen y Guardian, y Sun, y Daily Mail… ychydig iawn sy’n darllen papurau newydd mwyaf poblogaidd Cymru, y Western Mail a’r Daily Post. Hyd yn pe bai Plaid Cymru wedi rhoi’r Cymro cyntaf ar y Lleuad, fyddai neb yn gwybod am y peth, felly mae eu llwyddiannau yn eu cyfnod mewn grym yn amherthnasol i’r mwyafrif.

Rheswm arall o bosib, yw nad yw hi’n amlwg i’r pleidleisiwr arferol ble mae Plaid Cymru yn gorffen a’r Blaid Lafur yn dechrau. Mae’r glymblaid ym Mae Caerdydd wedi bod yn un cyffyrddus iawn. Fel y dywedodd John Dixon wrth esbonio pam ei fod wedi penderfynu gadael Plaid Cymru, mae’r Blaid wedi mynd yn debycach i’r prif bleidiau eraill. Pam pleidleisio dros blaid sydd mor debyg i’r Blaid Lafur pan allwch chi bleidleisio dros y Blaid Lafur?

Mae’n ddiddorol cymharu sefyllfa Plaid Cymru â’r SNP yn yr Alban. Ar ôl bod ymhell ar ei hol hi i’r Blaid Lafur yn y polau piniwn, mae’r SNP wedi llwyddo i ddal i fyny. Mae’n help iddyn nhw wrth gwrs fod y rhan fwyaf o bobol yn yr Alban yn darllen papurau newydd o’r Alban. Mae SNP yn cael y clod am eu llwyddiannau nhw yn ystod eu cyfnod mewn llywodraeth. Maen nhw hefyd yn lwcus fod ganddyn nhw arweinydd llawer mwy carismataidd nac arweinydd y Blaid Lafur, a bod hynny wedi dod i’r amlwg yn ystod y dadleuon ar y teledu.

Ond efallai mai prif arf yr SNP yw eu bod nhw’n blaid wahanol iawn i’r Blaid Lafur. Os rywbeth, mae’r Blaid Lafur wedi closio atyn nhw, gan fabwysiadu sawl un o’u polisïau, gan gynnwys rhewi trethi cyngor. Mae’r SNP wedi pwysleisio’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw a’r Blaid Lafur.

Yn benodol, maen nhw’n llawer mwy parod i arddel eu cenedlaetholdeb. Pryd oedd y tro diwethaf i Blaid Cymru grybwyll annibyniaeth? Efallai fod Plaid Cymru yn teimlo fod Cymru yn wlad fwy rhanedig na’r Alban, a bod gwyntyllu eu cenedlaetholdeb yn mynd i atal pobol rhag pleidleisio drostyn nhw. Ond ei chenedlaetholdeb ydi un o’r prif bethau sy’n unigryw am Blaid Cymru. Ac ar ôl y bleidlais fawr o blaid rhagor o ddatganoli, efallai y dylid ystyried a ydi pobol yn fwy parod i gefnogi plaid genedlaetholgar nag y maen nhw’n ei feddwl.