Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n pryderu, wrth i bolau piniwn ddangos bod eu cefnogaeth ar drai cyn Etholiadau’r Cynulliad.
Llai nag wythnos ar ôl cynhadledd y blaid yng Nghaerdydd, mae pôl piniwn newydd gan YouGov yn awgrymu bod eu cefnogaeth wedi syrthio 2% ers y mis diwethaf.
Dim ond 17% o bobol oedd yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru yn yr etholaethau, yn ôl YouGov.
Roedd eu cefnogaeth yn y bleidlais ranbarthol hefyd wedi syrthio 2%, o 18% i 16%.
“Mae polau piniwn yn mynd lan a lawr,” meddai llefarydd ar ran y Blaid. “Rydyn ni’n ffyddiog y bydd pobol yn sylweddoli fod yr angen egni a’r uchelgais ar y llywodraeth Gymreig nesaf er mwyn hybu’r economi a gwella addysg.
“Dim ond Plaid sydd â’r uchelgais hwnnw, a’n swyddogaeth ni dros yr wythnosau nesaf fydd dangos i Gymru mai dim ond Llywodraeth Plaid Cymru sydd â’r syniadau i drawsnewid Cymru dros y blynyddoedd nesaf.”
Llafur ar y blaen
Yn ôl y pôl piniwn diweddaraf a gomisiynwyd gan ITV Cymru, mae Llafur ar y blaen, ar 47% yn yr etholaethau a 45% yn rhanbarthol.
“Beth sy’n taro rhywun ydi bod y pleidiau eraill wedi cynnal cynadleddau dros y mis diwethaf sydd wedi denu llawer iawn o sylw, ond dydyn nhw heb ennill unrhyw gefnogaeth,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.
“Ni fydd pobol Cymru yn cael eu twyllo gan addewidion gwag. Maen nhw’n gwybod mai dim ond Carwyn Jones a Llafur wneith amddiffyn Cymru.”
Mae’r Ceidwadwyr yn ail ar 21% a 20%, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd ar 8% a 8%.
Fe fydd Cymru yn pleidleisio ar 5 Mai.