Erbyn y Nadolig fe fydd gan dîm pêl-droed Cymru reolwr newydd, ond o ba wlad ddaw o tybed? Tommie Collins sy’n ystyried y posibiliadau…
Ymysg yr rheini sy’n cael eu hystyried mae John Hartson, Ian Rush, Lawrie Sanchez, Bryan Flynn, Chris Coleman, a nawr, gŵr o Sweden…. na, peidiwch â phoeni, nid Sven ond Lars Lagerback.
Beth am fynd trwy’r rhestr un wrth un er mwyn asesu eu gobeithion:
• Hartson – Dw i ddim yn siŵr, ond mae ganddo bresenoldeb cryf ac yn ennyn parch gan y chwaraewyr. Mae hefyd wedi cael ei fathodyn hyfforddi bellach.
• Rush – Mae’n gweithio i’r Gymdeithas Bêl-droed yn barod, ond ddim yn ddewis da i mi am nad yw wedi rheoli ers cyfnod diflas â Dinas Caer ddeng mlynedd yn ôl.
• Sanchez – Gwerth rhoi cyfle iddo yn fy marn i. Fe gafodd brofiad gwych efo Gogledd
Iwerddon gan wneud yn dda efo chwaraewyr o safon isel. Dyw e ddim yn cymryd unrhyw lol.
• Flynn – Wedi methu ei gyfle mawr, tybed? Mae’r busnes o beidio dewis Bellamy yn y ddwy gêm ddiweddar wedi bod yn gamgymeriad mawr dwi’n meddwl. Eto pe bai’r Gymdeithas wir ei eisiau o, pam ddim rhoi’r swydd iddo yn syth. Mae Flynn yn iawn yn ei le – sef yn rheoli’r timau ieuenctid.
• Coleman – Pam ddim? Mae wedi cael profiad o reoli dramor yn Sbaen, ac wedi gwneud yn dda gyda Fulham. Dw i’n siŵr y byddai yn ennill parch y chwaraewyr hefyd.
• Ond mae enw Lagerback bellach yn y pair. Mae wedi cael cyfnod gwych gyda Sweden gan fynd â nhw i rowndiau terfynol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop ar bob ymgais dros y ddegawd ddiwethaf. Unigolyn sydd wedi bod yna ac wedi gwisgo’r crys T!
Heblaw am gyfnodau Mike Smith a Bobby Gould, Cymro sydd wedi bod wrth y llyw erioed, ac mae llawer yn meddwl bod rhaid cael Cymro i’n harwain. Mewn byd delfrydol buaswn wrth fy modd, ond ennill lle yng Nghwpan y Byd neu ffeinals Pencampwriaethau Ewrop ydy’r dasg, ac os oes angen tramorwr y wneud y job honno yna grêt!
Beth am edrych nôl i’r gorffennol. Does gen i ddim cof o Dave Bowen, ond dwi’n cofio Mike England, a wnaeth job iawn chwarae teg. Yn Wrecsam oedd y mwyafrif o’r gemau bryd hynny a dwi’n cofio fy ewythr yn mynd â mi i’r Cae Ras sawl gwaith.
Buddugoliaeth fythgofiadwy oedd y gweir 4-1 gafodd Lloegr. Allai ddim anghofio’r daith gyntaf i’r Alban gyda fy mrawd – gêm gwpan y byd oedd hi, a dim gobaith gan Gymru oedd y farn gyffredinol. Yng Nghymru bryd hynny doedd tafarndai ddim yn agor trwy’r dydd – mynd i Sir Feirionydd ar brynhawn Sul o’n i am beint neu ddau. Felly roedd cael tafarn yn agored yng Nglasgow am ddeg y bore yn dipyn o sioc! Cwrw trwy’r dydd, Rush yn sgorio, Cymru yn ennill 1-0, cwrw trwy’r nos a cheg sych ar y trên adref.
Terry Yorath ydy’r rheolwr yr ydw i a llawer o gefnogwyr yr un oed a mi’n ei gofio orau mae’n siŵr, ac fe wnes i gwrdd â Yorath sawl gwaith. Ym Mhort wnes i gwrdd ag o gyntaf pan fuodd yn gwneud sesiwn ymarfer efo Clwb Port â chael cyfle am sgwrs yn y clwb wedyn. Yn Ostrava oedd yr ail achlysur. Mi es i westy’r chwaraewyr gan fod Mike Foster o Bort yn y garfan dan-21. Pan welodd o, codi ei law a dod draw am sgwrs wnaeth Yorath.
Yn anffodus, doedd ail gyfnod Mike Smith ddim yn llwyddiant ac wedyn fe gawsom ni Sais arall sef Bobby Gould. Am gymeriad, mwydrwn go iawn de! Atgof mwyaf pawb o Gould ydy’r ddadl efo Savage am daflu crys Maldini i’r bin – diffyg parch ta be. Alla’i chwaith ddim anghofio’r gweir boenus 7-1 gan yr Iseldiroedd, efo Vinnie Jones yn gapten. Fe wnaeth y Manic Street Preachers hyd yn oed ganu cân “Bobby must go” i Gould, yn hytrach na’r fersiwn mwy adnabyddus ‘Everything must go”! Ond fe gawsom un daith fythgofiadwy i Copenhagen dan arweiniad Gould, gan ennill 2-1 diolch i gôl wych gan Bellamy. Fe wnaethom ni ddathlu tan oriau man bore, a bu Gould yn arwr am noson. Ond, dyn ecsentrig ydy Bobby hyd heddiw.
Mark Hughes – dyn sych ynteu ddyn meddylgar? Chwaraewr disglair dros ei wlad wrth gwrs, ond pawb yn anghofio iddo fethu’r gêm hollbwysig honno yn erbyn Rwmania yn 1993 oherwydd cerdyn melyn diangen mewn gêm flaenorol yn erbyn Cyprus. Fel rheolwr fe fethodd ei gyfle efo Cymru hefyd. Ar ôl canlyniad gwych ym Moscow yn gemau ail gyfle Ewro 2004 fe ddefnyddiodd yr un tactegau yn y gêm gartref – diniwed ta be? Felly doedd ddim dwywaith amdani a mynd oedd rhaid.
Mr Toshack…beth alla’i ddweud. Roeddwn i o blaid Tosh am gyfnod hir, ond erbyn y diwedd roeddwn wedi cael llond bol fel pawb arall. Alla’i ddim anghofio’r ddwy gêm yn erbyn Slofacia – gêm gartre gwarthus a colli 5-1 a’r ddau fab gyda mi. Tydi digalon ddim yn dechrau disgrifio’r teimlad – roedd hwn yn drobwynt yng nghefnogaeth y mab hŷn a tydi o heb fod mor ffyddlon i’w wlad ers hynny. Ac eto, mynd i Slofacia ac ennill 5-2 diolch i berfformiad gwych gan Bellamy. Ond, roedd ‘na fwy o siom na hapusrwydd dan Tosh ac yn amlwg doedd dim parch gan y chwaraewyr tuag at Tosh.
Felly i grynhoi, Yorath ac England gafodd y gorau o’r garfan yn fy marn i. Dwi’n siŵr mai Giggs fyddai’r dewis cyntaf i’r Gymdeithas Bêl-droed, ond am y tro, bydd rhaid aros. Beth bynnag am y dyfalu, mewn tua phythefnos byddwn yn gwybod pwy fydd yn codi ein gobeithio ni nesaf (cyn eu chwalu maen siwr!).