Mae cyn Aelod Seneddol Llafur yn wynebu carchar ar ôl cyfaddef iddo hawlio costau Seneddol ar gam.

Plediodd David Chaytor yn euog yn Llys yr Old Bailey i dri chyhuddiad o hawlio mwy nag £18,000 ar gam, ac mae’n wynebu hyd at saith mlynedd yn y carchar.

Mae pledio’n euog yn golygu y gallai’r barnwr dolcio traean o’r ddedfryd honno. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Southwark ar 7 Ionawr.

Roedd un o’r cyhuddiadau yn ymwneud gyda rhent yr oedd o’n ei dalu i ddynes yn Castle Stryd, Bury, yn Swydd Gaerhirfryn.

Ei fam oedd y ddynes, a oedd mewn cartref i’r henoed yn dioddef o glefyd Alzheimer. Cafodd hi erioed yr arian ac mae hi bellach wedi marw,

Roedd David Chaytor, 61, sy’n briod a chanddo dri o blant, wedi bod yn AS Gogledd Bury ers 1997. Cafodd ei atal dros dro o’r Blaid Lafur pan dorrodd stori’r sgandal costau yn y wasg y llynedd.

Roedd David Chaytor wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn ym mis Mai. Roedd ar fin wynebu achos llys dydd Llun.