Mae Gwasg Gomer wedi talu teyrnged i’r geiriadurwr nodedig H Meurig Evans ar ôl iddo farw yn 99 blwydd oed.

Roedd H Meurig Evans yn gyfrifol gyda W. O Thomas am ‘Y Geiriadur Mawr’ gafodd ei argraffu am y tro cyntaf yn 1958.

Roedd hefyd yn gyfrifol am Y Geiriadur Cymraeg Cyfoes.

‘Aruthrol’

“Roedd cyfraniad H. Meurig Evans a’i gyfaill W.O. Thomas yn aruthrol,” meddai John Lewis, cyfarwyddwr Gwasg Gomer wrth Golwg360. “Mae’r Geiriadur Mawr wedi bod ar y brig ymhlith geiriaduron ers dros hanner canrif, ac mae’n parhau i werthu hyd heddiw.

“Llafur cariad oedd y gwaith a’r ddau ohonynt yn treulio gwyliau ysgol yn paratoi’r geiriadur yn drylwyr nôl yn y 1950au. Bu’r Geiriadur Mawr wrth benelin cenedlaethau o ddarllenwyr Cymraeg ac rydym yn ddyledus iddynt am eu campwaith,” meddai John Lewis, cyfarwyddwr Gwasg Gomer.

Fe ddywedodd J Elwyn Hughes – awdur Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu wrth Golwg360 fod H Meurig Evans wedi gwneud “cyfraniad rhyfeddol yn ei gyfnod.”
“Mi lanwodd fwlch enfawr – doedd dim byd tebyg i’r Geiriadur Mawr bryd hynny ac fe gafodd groeso mawr mewn pob math o wahanol gylchoedd.

“Dw i’n meddwl bod pawb wedi gwerthfawrogi ac wedi cael budd o’i gyfraniad,” meddai cyn dweud ei fod yn rhoi “pob clod” iddo am ymroi’n wirfoddol i’r gwaith.

Sefydlu Bwrdd

Ond, mae ei gyfraniad – sydd wedi’i ddisgrifio fel “llafur cariad” gan wasg Gomer, wedi ailysgogi galw gan J Elwyn Hughes am Fwrdd cenedlaethol i ddiweddaru geiriaduron a dadansoddi iaith.

“Mae dibyniaeth yn y Gymraeg ar yr ochr wirfoddol i bethau. Dyw Cymru heb symud i’r oes fodern eto. Does dim Bwrdd i ddiweddaru geiriaduron fel maen nhw’n ei wneud yn Rhydychen,” meddai J Elwyn Hughes.

Eisoes, mae’r awdur ynghyd â phanel profiadol o gyd-weithwyr wedi ceisio sefydlu corff drwy’r Panel Cymraeg Swyddogol bymtheg mlynedd yn ôl.

Petai’r corff wedi dod i ffrwyth – byddai’r ‘Adran Safonau Iaith’ dan adain Bwrdd yr Iaith yn 1995 wedi gallu “edrych ar eiriau newydd oedd yn dod i’r Gymraeg” – ond daeth dim ohono, meddai J Elwyn Hughes.

Byddai’r panel wedi gweithredu ar amrywiol agweddau o’r Gymraeg gan hefyd dalu sylw at ddiweddaru geiriaduron, meddai. ”Mae’r Saeson yn cael corff o bobl i weithio ar eiriaduron.”

“Rydan ni angen corff fel hyn. Byddai’n bosibl cael staff i astudio geiriaduron fel geiriadur Meurig Evans,” meddai cyn dweud nad yw’r elfen wirfoddol “yn gwneud cyfiawnder â geiriadurwyr sy’n gorfod gweithio llawn amser” hefyd.