Mae ymgyrchwyr iaith wedi llongyfarch Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, ar ôl iddi gyflwyno gwelliant i’r Mesur Iaith fyddai’n rhoi statws swyddogol cyflawn i’r Gymraeg.
Mae’r gwelliant yn tynnu’r groes i’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, sydd wedi gwrthod cynnwys statws swyddogol i’r Gymraeg yn y mesur.
Yr wythnos diwethaf ymatebodd y Gweinidog Treftadaeth i 85 o Gymry blaenllaw oedd wedi anfon llythyr agored ato’n beirniadu’r mesur. Roedden nhw’n anhapus nad oedd y Mesur Iaith yn cynnwys statws diamod i’r Gymraeg.
Ond dywedodd Alun Ffred Jones wrth Golwg 360 na fyddai’n newid y mesur, ac y byddai rhoi statws pen agored i’r iaith Gymraeg yn creu mwy o amwyster, nid llai.
Ond heddiw cyflwynodd Bethan Jenkins welliant wyth gair i’r mesur fyddai’n rhoi statws swyddogol cyflawn i’r Gymraeg yng Nghymru.
Dywedodd Dr Meredydd Evans, Dr Angharad Price a Ned Thomas – tri o’r 85 wnaeth anfon llythyr agored at Alun Ffred Jones ar ddechrau mis Tachwedd – eu bod yn croesawu gwelliannau Bethan Jenkins ac yn ei “llongyfarch yn wresog am ei gweledigaeth”.
“Yr ydym yn llongyfarch Bethan Jenkins yn wresog am ei gweledigaeth a’i dewrder yn cynnig gwelliant syml i’r Mesur Iaith fydd yn sicrhau statws swyddogol cyflawn i’r Gymraeg,” meddai’r tri mewn datganiad ar y cyd.
‘Mawr obeithio’
“Dyma beth yw ystyr democratiaeth iach. Mae Bethan Jenkins wedi gwneud ei safiad. Mawr obeithiwn y bydd cynifer â phosib o aelodau ein Cynulliad Cenedlaethol o bob plaid yn cefnogi’r gwelliant pan ddaw hi’n fater o bleidleisio ddydd Mawrth.”
Fe ddywedodd y tri y byddai “pleidleisio o blaid y gwelliant” yn gosod “sylfeini cadarn a theg ar gyfer ein cymdeithas ddwyieithog”.
“Apeliwn ar i bawb sy’n caru’r iaith Gymraeg i ysgrifennu at eu haelodau Cynulliad lleol a rhanbarthol dros y Sul i erfyn arnynt gefnogi’r gwelliant hanesyddol hwn.”