Mae swyddogion Llywodraeth San Steffan wedi cynnal cyfarfod brys i drafod sut orau y gallai’r wlad ymdopi gyda’r tywydd gaeafol.
Fe ddaw’r cyfarfod yn dilyn newyddion bod dau bensiynwr yn Cumbria wedi marw o ganlyniad i’r tywydd rhewllyd.
Roedd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond wedi galw’r cyfarfod i drafod paratoadau ar gyfer y penwythnos.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud nad yw’r amodau gaeafol yn mynd i ddod i ben yn y dyfodol agos.
Yn ymuno gyda Philip Hammond roedd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, yr Ysgrifennydd Amgylchedd Caroline Spelman, Gweinidog Addysg Sarah Teather, Gweinidog Iechyd Paul Burstow a’r Gweinidog Ynni, yr Arglwydd Marland. Roedd yna gynrychiolydd o’r Swyddfa Dywydd hefyd yn bresennol.
Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing bod Prydain mewn sefyllfa well er mwyn ymdopi gyda’r tywydd o’i gymharu â llynedd, ond nid oedd unrhyw sicrwydd na fyddai’r wlad yn rhedeg allan o raean y gaeaf yma.
Fe ychwanegodd y llefarydd nad oedd yna unrhyw bryderon mawr ynglŷn â chyflenwad bwyd, petrol, disel na nwy ar hyn o bryd.
Roedd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi ei feirniadu ar ôl i filoedd o bobol gael eu gadael heb unrhyw ffordd o deithio ar ôl i wasanaethau gael eu canslo.