Fe fydd band Ail Symudiad yn lansio’u halbwm cyntaf ers pymtheg mlynedd heno.
Fe fydd albwm newydd ‘Rifiera Gymreig’ y band yn cael ei lansio yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon heno (Ddydd Gwener, 3 Ragfyr).
Fe ddywedodd Richard Jones o’r band wrth Golwg360 fod teitl yr Albwm yn sôn am “ardal ei gartref” yn Aberteifi. “Mae’r gân deitl yn sôn am fy nghartref i ac am y siopau gwahanol ar ochr Sir Benfro i’r afon. Mae’r geirie’n dafodieithol hefyd,” meddai cyn dweud ei fod “wastad wedi dweud mai Aberteifi yw’r Riviera Cymreig.”
Mae Ail Symudiad wedi bod wrthi’n recordio’r albwm ers mis Medi, meddai cyn dweud mai ei hoff gan ar yr albwm yw ‘Y Da a’r Cyfiawn Rai.’
“Mae’n fwy roci ei naws. Mae’r geirie’ ymbyti nyrsys, doctoriaid a phobl sy’n edrych ar ôl y digartref yn Llundain. Y rhai sy’n real haeddu’r sylw – yn lle’r holl ganmol sydd am sêr rownd y rîl,” meddai Richard Jones sy’n chwarae gitâr ac yn canu yn y band.
“Mae llawer o wirfoddolwyr yn gwneud pethe – yn aml yn ddi-dâl – dydyn nhw ddim yn cael eu clodfori ddigon – y bobl hynny sy’n helpu eraill yn feddygol ac ysbrydol,” dywedodd.
‘Ystyr’
Mae hefyd yn hoff o gan ‘Ras y Broga Melyn’ gafodd ei ysgrifennu gan ei fab. Mae geiriau’r trac yn mynd i’r afael â’r frwydr i ddiogelu nid yn unig rhywogaeth brogaod prin yn yr Amazon, ond fforestydd yn gyffredinol hefyd.
“Anaml ‘ni’n sgwennu caneuon – ‘She loves you baby’, mae ’na rywbeth ysbrydol ynddyn nhw – rhyw ystyr fel arfer” meddai.
Mae deg cân ar y cryno ddisg gan Ail Symudiad sy’n cynnwys Grwfi Grwfi, Ynys Prydferthwch, Rifiera Gymreig, Scuttlers, Y Da a’r Cyfiawn Rai, Bywyd Heb Farbeciw, Anrhegion Annapurna, Ras y Broga Melyn.
Llun: Clawr albwm Rifiera Gymreig