Mae cefnwr y Crusaders, Clinton Schifcofske wedi dweud ei fod am ennill cwpan gyda’r clwb Cymreig cyn iddo ymddeol.

Mae disgwyl i yrfa 15 mlynedd Schifcofske ddod i ben ar ddiwedd tymor 2011.

Fe gychwynnodd y cefnwr ei yrfa yn 1996 gyda South Queensland ac fe aeth yn ei flaen i sgorio 1,604 o bwyntiau yn ystod ei gyfnod yn Awstralia.

Mae hyn wedi’i osod yn nawfed ar restr prif sgorwyr rygbi’r gynghrair yn Awstralia.

Mae hefyd wedi cynrychioli Queensland mewn gêm yng nghystadleuaeth State of Origin yn erbyn New South Wales.

Fe dreuliodd gyfnod yn chwarae rygbi’r undeb, gan ennill pum cap dros Awstralia A yn ogystal â threulio cyfnod gyda Munster.

Serch hynny dyw e’ erioed wedi ennill unrhyw gwpanau. Ond mae o wedi dweud bod ennill rhywbeth gyda’r Crusaders yn uchelgais enfawr iddo yn 2011.

“Rydw wedi bod yn chwarae ers 15 tymor ac rwy’n dal i fod yn uchelgeisiol. Dw i ddim wedi ennill dim byd o bwys ac fe fydda’i ychydig yn siomedig gorffen fy ngyrfa heb ennill cystadleuaeth,” meddai Clinton Schifcofske.

“Dyma fydd fy mlwyddyn ddiwethaf yn chwaraewr ac felly rwy’n mynd i roi o fy ngorau i’r Crusaders.

“Gyda bach o lwc fe allen ni ennill rhywbeth. Mae’n mynd i fod yn dymor mawr i ni. Rwy’n mwynhau chwarae gyda’r Crusaders a dw i’n edrych ymlaen at ddechrau’r tymor.”