Mae Trinidad a Tobago wedi dewis ymarfer yng Nghaerdydd cyn y Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, gan ddweud fod y cyfleusterau wedi creu ‘argraff fawr’ arnynt.
Gwnaethpwyd y penderfyniad yr wythnos hon yn dilyn dau ymweliad â Chymru gan uwch swyddogion Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago.
Mae’n golygu y bydd athletwyr Trinidad a Tobago yn gallu defnyddio gwasanaethau meddygol a gwyddoniaeth chwaraeon Cymru, ac yn cael gofal gan staff sydd wedi gweithio gyda thimau Olympaidd eraill ers sawl blwyddyn.
“Ar ôl ystyried nifer o leoliadau ar gyfer ymarfer yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n falch iawn o fod wedi dewis Caerdydd,” meddai Larry Romany, Llywydd Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago.
“Mae’r cyfleusterau ardderchog y byddwn ni’n eu defnyddio, a brwdfrydedd ein cyfeillion yng Nghymru i helpu’n hathletwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Llundain 2012, wedi gwneud argraff fawr arnom.
“Rwy’n falch iawn bod Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago wedi dewis Cymru fel y lle i ymarfer cyn Gemau Olympaidd 2012,” meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru cyn dweud ei fod yn “siŵr y bydd croeso cynnes iddyn nhw tra byddan nhw yma yng Nghymru”.
“Rwy’n dymuno pob hwyl i Drinidad a Tobago a’u phartneriaid Cymreig yn eu paratoadau ar gyfer Llundain 2012,” meddai Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain 2012.
Eisoes, mae Gweinidogion Cymru a Phwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gadarnhau’r penderfyniad.