Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi dweud ei fod o’n disgwyl gêm galed yn erbyn Ipswich yn Portman Road yfory.

Fe fydd yr Elyrch yn wynebu tîm Roy Keane fydd yn llawn hyder ar ôl iddynt guro West Brom yng Nghwpan Carling nos Fercher diwethaf.

Fe fydd Abertawe yn awyddus i daro ‘nôl ar ôl colli 2-1 yn erbyn Portsmouth yn Stadiwm Liberty yr wythnos diwethaf.

Er gwaethaf dechrau addawol i’r tymor mae Ipswich wedi disgyn i’r 17eg safle yn y Bencampwriaeth. Serch hynny dim ond chwe phwynt sydd rhyngddyn nhw a safleoedd y gemau ail gyfle.

‘Parch’

“Roedden nhw wedi dechrau’r tymor yn dda, ond maen nhw wedi colli eu ffordd yn ddiweddar,” meddai Brendan Rodgers.

“Ond fe wnaethon nhw sicrhau canlyniad da yng Nghwpan Carling yn ystod yr wythnos ac fe fydd hi’n ddiddorol gweld beth mae Roy Keane yn ei wneud.

“Fe fydd hi’n gêm galed, ond fe fyddwn ni’n mynd yno gyda hyder ac yn gobeithio taro ‘nôl yn dilyn y canlyniad yn erbyn Portsmouth.”

Dywedodd Brendan Rodgers ei fod yn siarad yn aml gyda Roy Keane ar ôl i’r ddau astudio am drwydded hyfforddi’r un pryd.

“Rwy’n siarad gyda Roy yn amal ond ddim yr wythnos yma!” meddai Rodgers.

“Mae gen i’r parch mwyaf tuag ato. Gan ystyried ei fod yn un o chwaraewyr canol cae gorau’r Uwch Gynghrair am flynyddoedd, fe allai fod wedi cymryd yr awenau gyda thîm mawr yn syth. Ond fe aeth trwy’r broses gyfan o sicrhau ei fathodynnau hyfforddi.

“Mae e’ am weld Ipswich yn gwneud eu gorau ac fe fydd o’n gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwneud hynny.”