Mae’r tywydd gaeafol yn parhau i effeithio ar chwaraeon yng Nghymru gyda mwy o gemau wedi cael eu gohirio dros y penwythnos.

Mae’r ddwy gêm yn yr Uwch Gynghrair Cymru heno wedi cael eu gohirio oherwydd y tywydd rhewllyd.

Bydd rhaid i Hwlffordd ail drefnu eu gêm yn erbyn Caerfyrddin a ni fydd Prestatyn yn chwarae yn erbyn y Bala heno ar ôl archwiliad o’r cae.

Mae’r gêm rhwng y Drenewydd a Llanelli hefyd wedi cael ei gohirio oherwydd bod cae Parc Latham wedi rhewi.

Mae Llanelli eisoes wedi methu chwarae eu dwy gêm ddiwethaf yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl i gemau yn erbyn Hwlffordd a Bangor cael eu canslo oherwydd y tywydd.

Mae rheolwr Llanelli, Andy Legg wedi galw am symud tymor pêl droed Cymru i’r haf er mwy osgoi gorfod gohirio gemau oherwydd rhew ac eira.

Dywedodd Andy Legg bod gohirio gemau yn ei gwneud hi’n anodd i dimau gwblhau eu gemau ar amser.

Yn dilyn y tywydd gaeafol y tymor diwethaf fe gafodd sawl un o gemau Llanelli eu gohirio, ac o ganlyniad i hynny bu’n rhaid iddynt chwarae wyth gêm mewn 19 diwrnod ar ddiwedd y tymor.

Fe allai sefyllfa debyg godi unwaith eto os fydd y tywydd rhewllyd yn parhau. Bydd rhaid cwblhau chwarae gemau hanner cyntaf y tymor erbyn 15 Ionawr pan fydd yr adran yn cael ei rhannu’n ddwy.

Gohirio

Mae gêm Wrecsam yn erbyn Crawley yn Uwch Gynghrair Blue Square hefyd wedi cael ei gohirio oherwydd y tywydd.

Penderfynwyd nad oedd y Cae Ras yn saff i chwarae arno cyn i Crawley ddechrau ar eu taith i’r gogledd.

Mae gêm Casnewydd yn erbyn Caergrawnt ddydd Sul yn dal i fod ‘mlaen ar hyn o bryd.

Ond mae tîm Dean Holdsworth eisoes wedi methu a chwarae un gêm yr wythnos yma ar ôl i’r tywydd eu hatal nhw rhag wynebu Tamworth nos Iau.