Bydd Josh Turnbull a Joe Ajuwa yn dychwelyd o anafiadau i chwarae i’r Scarlets yn erbyn Leinster yn Llanelli heno.
Mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru Stephen Jones a Matthew Rees yn ogystal â chapten Fiji, Deacon Manu wedi eu cynnwys ar y fainc.
Ond mae’r asgellwyr George North a Sean Lamont yn cael eu gorffwys ar ôl iddynt ddioddef man anafiadau yn ystod eu cyfnod gyda’r garfan rhyngwladol.
Mae’r Scarlets wedi mwynhau dechrau addawol iawn i’r tymor newydd, gan ennill chwech o’u naw gêm yng Nghynghrair Magners hyd yn hyn ac maen nhw yn yr ail safle.
Mae’r rhanbarth eisoes wedi ennill mwy o gemau yn barod y tymor hwn na thrwy gydol y tymor diwethaf, gyda 30 o bwyntiau o’i gymharu â chyfanswm o 29 o bwyntiau yn ystod tymor 2009/10.
‘Cysondeb’
Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies yn awyddus i weld ei dîm yn gwella eu perfformiadau yn erbyn pencampwyr Ewrop.
“Mae llwyddiant yn y gynghrair yn dibynnu ar gysondeb a sicrhau hynny yn ein perfformiadau o wythnos i wythnos.
“Fe fydd buddugoliaeth nos fory yn ein cadw ar frig y tabl a dyna’r targed.
“Ry’n ni’n awyddus iawn i wella ar ein perfformiadau yn erbyn Leinster. Fe fyddan nhw’n cyrraedd yma’n hyderus ac ry’n ni’n ymwybodol iawn bod angen i ni berfformio’n dda yn eu herbyn.
“Mae nifer o bethau da yn digwydd yma ar hyn o bryd, mae yna ffydd a phendantrwydd yn y garfan, maen nhw’n chwarae gydag angerdd a balchder ac mae yna fwy o gystadleuaeth i wisgo’r crys.
“Cynigwyd wythnos o orffwys i’r chwaraewyr rhyngwladol ond ro’n nhw’n awyddus iawn i ddychwelyd i fod yn rhan o’r grŵp unwaith eto ac mae’n wych i weld bod gennym chwaraewyr sy’n falch o fod yn Scarlets.”
Mae gan Barc y Scarlets dechnoleg gwres dan y ddaear a does dim disgwyl i’r tywydd effeithio ar y gêm, yn wahanol i rai o gemau eraill y gynghrair.
Carfan y Scarlets
Dan Newton, Morgan Stoddart, Gareth Maule, Regan King, Joe Ajuwa, Rhys Priestland, Tavis Knoyle,
Phil John, Ken Owens, Peter Edwards, Damian Welch, Dominic Day, Josh Turnbull,
Johnathan Edwards, David Lyons.
Eilyddion: Matthew Rees, Rhodri Jones, Deacon Manu, Rob McCusker, Ben Morgan, Martin Roberts, Stephen Jones, Scott Williams.