Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl i leidr glymu postfeistr yn ystod lladrad arfog mewn Swyddfa Bost yn Nhreharris.
Digwyddodd y lladrad ddoe rhwng 5.15pm a 6pm, yn y Swyddfa Bost ar Stryd Fox y dref.
Wrth i’r postfeistr gloi’r adeilad ddiwedd dydd, cnociodd dyn ar y drws a gorfodi ei ffordd i mewn wrth iddo gael ei agor.
Honnodd bod ganddo ddryll a bygwth y postfeistr, cyn ei glymu a dianc gyda lot fawr o arian parod a cherbyd y postfeistr.
BMW du oedd y cerbyd gyda’r rhif cofrestru M17 VJL. Roedd wedi ei barcio ym maes parcio’r Navigation Hotel gerllaw.
Yn ôl yr heddlu roedd y dyn tua 6’4” gyda llygaid tywyll, yn gwisgo siaced ddu gyda sip arno, a sgarff oedd yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’i wyneb, a het ddu wlanog.
Roedd o hefyd yn cario bag du chwaraeon.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad cas iawn ac rydym ni’n ei ystyried e’n ddifrifol,” meddai’r ditectif gwnstabl Kevin Barry.
“Cafodd y dioddefwr ei daro dros ei ben a dioddef anaf bach lle’r oedd angen triniaeth ysbyty, ac mae o wedi cael ysgytwad.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn brin iawn yn yr ardal yma, ac rydym ni’n awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol, neu wedi sylwi ar rywbeth amheus.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Daclo’r Tacle ar 0800 555 111.