Dylai cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn uno eu gwasanaethau yn y dyfodol er mwyn arbed arian, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad heddiw.
Dywedodd y gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, y bydd yn cynnal adolygiad manwl ar y potensial i’r ddau awdurdod gydweithio.
Mae’r ddau gyngor wedi cytuno i’r adolygiad, ond ni fydd pwysau arnyn nhw i dderbyn ei argymhellion, meddai.
Byddai’r ddau gyngor yn parhau’n ddau “endid democrataidd ar wahân” hyd yn oed pe bai nhw’n uno eu gwasanaethau, meddai’r gweinidog.
Ychwanegodd nad oedd yr adolygiad yn “ymateb i broblemau Ynys Môn”, er nad oedd modd “anwybyddu’r ffaith bod Ynys Môn wrthi’n adfer ei sefyllfa yn sgil problemau llywodraethu corfforaethol difrifol iawn”.
“Mae’n debygol y byddai angen mwy o gydweithredu rhwng y ddau awdurdod hyd yn oed heb gymryd problemau diweddar Ynys Môn i ystyriaeth, er bod y rheini’n golygu bod angen cyflymu’r broses,” meddai.
Cydweithio
Roedd y ddau gyngor wedi cydweithio i ryw raddau yn y gorffennol, ond bod angen ystyried “integreiddio prif wasanaethau’n llawn”, meddai.
Fe fyddai hynny “yn ei dro yn golygu symud tuag at rannu uwch dîm rheoli”.
Pwysleisiodd Carl Sargeant nad y nod oedd uno cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn fel un cyngor.
“Mae’n hanfodol pwysleisio nad oes a wnelo hyn ddim o gwbl ag uno’r awdurdodau,” meddai.
“Mae’n gwbl bosibl cynnal democratiaeth leol wrth fynd ati i adolygu’n radical y trefniadau ar gyfer darparu a rheoli gwasanaethau, fel y mae nifer o gynghorau yn yr Alban a Lloegr wedi cydnabod. Dyna yw nod y camau hyn yn y pen draw.
“Nid wyf yn dymuno lleihau ar ymreolaeth ddemocrataidd; yn hytrach, rwyf am helpu i ddiogelu gwasanaethau allweddol.
“Petai’r rhaglen hon yn cael ei rhoi ar waith, byddai’r ddau gyngor yn parhau i fodoli fel endidau democrataidd ar wahân.
“Byddai cynghorwyr yn parhau â’r un ystod o gyfrifoldebau ag ar hyn o bryd, a byddent yn atebol i’r bobl leol yn yr un ffordd.”
Fe fydd yr astudiaeth yn cael ei gomisiynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.
Bydd yr astudiaeth yn cychwyn “cyn gynted a bo modd” ac yn adrodd yn ôl erbyn mis Chwefror 2011.