Mae’r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn 21 oed mewn storfa ailgylchu ym Mhen y Bont yr Ogwr.

Cafodd y dyn ei ladd am 12.43pm ddoe yn storfa ailgylchu Nolan yng Nghloddfa Hobbs, Stormy Down, Pen y Bont ar Ogwr.

Yn ôl yr heddlu fe fu farw ar ôl gwrthdrawiad gyda lori sgip. Cafodd parafeddygon eu galw ond fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r crwner wedi cael gwybod.