Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi heddiw na fydden nhw’n gorfodi cynghorau yng Nghymru i ailbrisio treth cyngor yn 2015.

Mae gweinidogion yn San Steffan eisoes wedi dweud na fydden nhw’n gwneud hynny yn Lloegr er mwyn osgoi cynnydd “annisgwyl” mewn trethi.

Bydd y grym i ailbrisio treth cyngor yn cael ei ddatganoli i Gymru a nhw fydd yn penderfynu bwrw ymlaen ai peidio, yn ôl y gweinidog llywodraeth leol Bob Neill.

“Mae llywodraeth y glymblaid yn glir na ddylai yna fod unrhyw gynnydd annisgwyl mewn trethi dros y pum mlynedd nesaf,” meddai mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi ein bod ni wedi canslo ailbrisio treth cyngor yn Lloegr yn 2015 ac na fydd y Llywodraeth yn gwneud hynny o fewn cyfnod y Senedd yma.

“Mae’n deg bod trethdalwyr Cymru yn cael eu hamddiffyn yn yr un modd.”

Bydd Llywodraeth San Steffan yn deddfu er mwyn dileu’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer ailbrisio bandiau treth yng Nghymru yn 2015, meddai.

Fe fydd o hefyd yn datganoli’r pŵer i Fae Caerdydd gael penderfynu pryd y bydd unrhyw ailbrisio yn y dyfodol yn digwydd.

Fe fu’n rhaid i bedair gwaith yn fwy o dai yng Nghymru symud i fyny band yn ystod yr ailbrisio diwethaf yn 2005 nag y symudodd i lawr.

Dywedodd Bob Neill bod dau draean o’r tai symudodd i fyny yn y bandiau is, A i C, a bod yna bryder “y byddai ailbrisiad arall yn taro cartrefi tlawd yn bennaf”.

“Mae’r Llywodraeth eisiau i drethdalwyr yng Nghymru gael yr un sicrwydd ynglŷn â’u trethi a threthdalwyr yn Lloegr,” meddai.

“Bydd rhaid i Lywodraeth y Cynulliad benderfynu a fydden nhw nawr yn rhoi’r un sicrwydd i drethdalwyr Cymru.

“Ni fydd yna ailbrisiad nawr heblaw bod gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn penderfynu fel arall.”