Mae’r Heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ferch 17 blwydd oed ddioddef ymosodiad rhywiol ger y Clwb Rygbi yn y Bala ddydd Sadwrn.

Fe ddywedodd Mike Owen o’r Heddlu fod yr ymosodiad wedi digwydd rhwng llwybr llyn Bala a’r caeau Rygbi tua 10pm.

“Rydan ni’n awyddus i ddod o hyd i ddyn cyhyrog yn ei ugeiniau, 5’10” o daldra, â llygaid brown gyda marc eillio ar bob un o’i aeliau a lwmp ar ei drwyn.”

Mae ganddo wallt golau gyda gwreiddiau du, ffrinj byr ac acen leol, medd yr heddlu.

Roedd yn gwisgo top cwcwll du gyda logo ‘Henleys’ neu ‘Mackenzie’ glas, trowsus tracwisg du, esgidiau chwaraeon Henley du ac oren, sgarff du a menig sgïo.

“Rydan ni’n deall fod y dyn hwn mewn tafarndai yn ardal Bala’r noson honno ac rydan ni’n gofyn i unrhyw un a’i gwelodd i ddod i gyswllt gyda ni,” meddai Mike Owen.

“Mae ymchwiliadau’n parhau ac rydym yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth neu sy’n gwybod ble mae’r dyn i ddod i gyswllt hefo ni.”

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda swyddogion yn Nolgellau ar 0845 607 1001, neu 0845 607 1002 neu gyda Thaclo’r Tacle ar 0800 555 111.