Mae adroddiad gan gorff annibynnol wedi argymell y dylai cynghorau ddefnyddio ‘tanciau tanco’ i leihau’r baich ar heddweision.
Mae yna bryderon ynglŷn â faint o bobol meddw sy’n marw yng nghelloedd yr heddlu, a faint o amser ac adnoddau’r heddlu sy’n mynd i ymdrin â meddwon.
Yn ôl Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu dylid osgoi rhoi pobol sydd angen sobri yng nghelloedd yr heddlu.
Mae yna “gysylltiad cryf” rhwng alcohol a phobol yn marw yn y carchar, meddai’r adroddiad.
Roedd 72% o’r rheini fu farw mewn celloedd wedi eu harestio mewn cysylltiad ac yfed a chyffuriau.
Dywedodd y comisiwn y dylai’r Swyddfa Gartref a’r Adran Iechyd greu cyfleusterau amgen ar gyfer pobol sydd wedi meddwi.
Byddai’r ‘tanciau tanco’ yn le i bobol sydd wedi meddwi sobri a derbyn gofal meddygol, medden nhw.
Dechreuodd yr Alban ddefnyddio cyfleusterau ar wahân ar gyfer pobol oedd wedi meddwi chwe blynedd ‘nôl.
Fe fuodd 17 o bobol farw yn y ddalfa ym Mhrydain yn 2009/10, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.