Dylan Iorwerth yn anobeithio tros yr adroddiadau diweddara’ am helyntion S4C…
Os ydi stori’r BBC yn gywir, mynd i ddrwg i waeth y mae pethau o fewn i Awdurdod S4C.
Un peth ydi bod Cadeirydd yn ymddiswyddo. Peth arall ydi ymddiswyddo a dod yn ôl wedyn.
Fel yr oedd adroddiad ar Golwg 360 wedi awgrymu’r wythnos ddiwetha’, mae’n ymddangos fod John Walter Jones wedi bwriadu ymddeol o’r swydd yn y gwanwyn.
Neithiwr, yn ôl adroddiadau Betsan Powys, mi benderfynodd fynd yn syth, mynd i ddweud wrth yr Adran Dreftadaeth am hynny … ac yna dod yn ôl i ddweud ei fod wedi newid ei feddwl.
Erbyn y bore, roedd ASau Ceidwadol wedi gwneud datganiad yn galw ar i bawb ond John Walter Jones ymddiswyddo o’r Awdurdod. Roedd hynny’n ddigon i ddangos fod pethau rhyfedd ar droed.
Mae hi wedi mynd y tu hwnt i geisio dyfalu pwy sy’n iawn neu pwy sy’n anghywir, pwy sy’n bihafio’n ddeche a phwy sy’n bihafio’n dan-din. Y funud yma, does fawr ddim gwahaniaeth pwy sydd ar fai am beth.
Ond mae gwahaniaeth fod cecru a dadlau o fewn yr Awdurdod yn tanseilio’r ymdrechion i geisio cael y fargen ola’ i’r sianel ac yn bwyta’r tir o dan draed y miloedd sydd wedi dangos eu cefnogaeth iddi.
Mae angen i’r aelodau i gyd wynebu eu cyfrifoldeb a thynnu at ei gilydd, penderfynu ar drywydd a gwneud y gorau fedran nhw dros sefydliad mwya’ pwerus a chefnog y diwylliant Cymraeg.
Cyfrifoldeb
Maen nhw i gyd yn bobol anrhydeddus, felly mi fydd rhaid i’r rhai sy’n colli’r bleidlais lyncu eu poer a’u balchder ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb y maen nhw i gyd wedi’i gymryd.
Nhw sydd i fod i arwain yr ymdrech i geisio perswadio’r Llywodraeth i newid ei meddwl, gan weithio gyda ffrindiau yn y byd gwleidyddol – arweinwyr y pedair plaid Gymreig er enghraifft.
Os ydi hynny’n methu, nhw sydd i fod i ymladd tros annibyniaeth y sianel a nhw sydd i fod i frwydro am y fargen orau yn y berthynas efo’r Gorfforaeth. Fydd Awdurdod rhanedig yn methu gwneud hynna i gyd.
Os byddan nhw’n gwneud protest o ymddiswyddo, wnaiff hynny ddim argraff fawr bellach. Pam? Oherwydd ei bod hi fis yn rhy hwyr ac oherwydd llanast y tri mis diwetha’ – llanast sy’n waeth ar ôl neithiwr. Yr Ysgrifennydd Treftadaeth fyddai yn y pen draw yn penodi pobol yn eu lle.
Dim ond un dewis sydd iddyn nhw. Callio.