Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi amheuaeth am honiad Llywodraeth y Cynulliad eu bod nhw wedi cwrdd â’u targed er mwyn creu mwy o dai fforddiadwy blwyddyn yn gynnar.

Honnodd y llywodraeth heddiw bod 2,472 o dai fforddiadwy ychwanegol ar gael erbyn mis Mawrth eleni. Roedd hynny’n golygu bod 6,707 wedi eu darparu ers i’r glymblaid gytuno i greu 6,500 yng Nghytundeb Cymru’n Un yn 2007.

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn honni bod Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi sglein ar yr ystadegau er mwyn cyrraedd y targed cyn Etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.

Maen nhw’n dweud mai dim ond y tai sydd wedi dod ar gael sy’n cael eu cynnwys yn yr ystadegau, ac nad yw’n cyfri faint o dai sydd wedi eu colli.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod y llywodraeth wedi dewis anwybyddu 2,000 o dai a gafodd eu gwerthu rhwng 2007 a 2009.

Roedd hynny’n golygu nad oedd nifer y tai fforddiadwy oedd ar gael wedi cynyddu 6,500 wedi’r cwbwl, medden nhw.

“Unwaith eto mae’r Llywodraeth Llafur-Plaid yn camarwain pobol ynglŷn â’u targedau,” meddai llefarydd tai’r Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black.

“Mae’r dirprwy weinidog tai [Jocelyn Davies] yn ceisio cuddio’r ffigyrau go iawn o olwg pobol Cymru.

“Mae’r ffaith bod 2,188 o dai wedi eu colli o’r stoc tai fforddiadwy yn golygu bod y cynnydd yn llawer llai nag y maen nhw’n ei honni.

“Dim ond pump mis sydd tan derfyn amser Cytundeb Cymru’n Un, felly fe fyddai angen gwyrth arnyn nhw i gyrraedd eu targed.”

‘Wedi cyrraedd y targed’

Dywedodd llefarydd ar ran Jocelyn Davies bod y ffigyrau wedi eu rhyddhau yn unol gyda rheolau swyddogol ynglŷn a rhyddau ystadegau.

“Bydd rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol fyw gyda’r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd ein targed,” meddai.

Dywedodd Jocelyn Davies bod y galw am dai fforddiadwy yn dal i gynyddu ac y byddai angen darparu mwy.

“Fe fydd hynny’n dipyn o her o ystyried faint bod llai o arian ar gael,” meddai. “Ond rydym ni’n datblygu ffyrdd newydd i ddenu buddsoddiad ac yn edrych ymlaen at gydweithio gydag awdurdodau lleol, asiantaethau tai ac eraill yn y sector dai er mwyn parhau’r gwaith da ydan ni wedi bod yn ei wneud hyd yma.”