John Walter Jones
Mae S4C wedi cadarnhau heno bod John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod y sianel, wedi ymddiswyddo.
Serch hynny mae’r dryswch yn parhau a ydi Adran Ddiwylliant Llywodraeth San Steffan wedi derbyn ei ymddiswyddiad ai peidio.
Roedd adroddiadau gan y BBC yn awgrymu ei fod o wedi ymddiswyddo mewn cyfarfod gyda gweddill yr Awdurdod neithiwr ond yna wedi newid ei feddwl.
“Nid ydym wedi derbyn cadarnhad o’r penderfyniad oddi wrth yr Adran Ddiwylliant ac nid ydym wedi clywed gan Mr Jones ers y cyfarfod neithiwr,” meddai llefarydd ar ran S4C heno.
“Mae’r Awdurdod wedi bod yn gytûn erioed ynghylch pwysigrwydd trafodaethau gyda’r Adran Ddiwylliant a’r BBC ynglŷn â chyfeiriad S4C yn y dyfodol. Cynhaliwyd cyfarfodydd eisoes gyda Adran Ddiwylliant ac Ymddiriedolaeth y BBC a chynhelir cyfarfod arall wythnos nesaf.”
Mae’n debyg bod John Walter Jones wedi dweud wrth weddill yr Awdurdod ei fod o wedi dod i gytundeb gyda Adran Ddiwylliant San Steffan mewn cyfarfod ar 16 Tachwedd ynglŷn ag ymddiswyddo yn 65 oed ym mis Mawrth.
Ond yn dilyn trafodaeth gydag aelodau eraill yr Awdurdod, dywedodd y byddai’n ymddeol yn syth, a yna fe gysylltodd gydag Adran Ddiwylliant Llywodraeth San Steffan i roi gwybod ynglŷn â’i benderfyniad.
Serch hynny mae’n debyg bod John Walter Jones wedi newid ei feddwl ac yn ôl yr Adran Ddiwylliant ef yw Cadeirydd yr Awdurdod o hyd.
Heddiw penodwyd Rheon Tomos, cyfrifydd hunan gyflogedig, i swydd is-gadeirydd y sianel.
Ers y cyfarfod mae Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr wedi galw ar i bawb ar yr Awdurdod heblaw am John Walter Jones i ymddiswyddo.
Honnodd yr Aelod Seneddol Guto Bebb bod rhai o aelodau’r Awdurdod yn gwrthwynebu cynnal unrhyw drafodaethau gyda’r BBC – ar ôl i’r Llywodraeth yn Llundain benderfynu y dylai arian y sianel ddod trwy’r Gorfforaeth.