Mae S4C yn amlwg iawn ar ein gwefan ac ar flog Golwg360 heddiw a gallwch chi ddarllen sylwadau Dylan ac Ifan ar y trafferthion hyd yn hyn ond y datblygiad diweddaraf yw y bydd yr awdurdod yn mynd am arolwg barnwrol o benderfyniad y Llywodraeth i roi gofal S4C i’r BBC. Y datganiad yn llawn gan S4C:

Mae Awdurdod S4C yn mynd i lansio Adolygiad Barnwrol o benderfyniad y Llywodraeth i gyfuno S4C a’r BBC i bob pwrpas.

Doedd gan S4C ddim gwybodaeth o flaen llaw am drafodaethau rhwng y BBC a’r Ysgrifennydd Gwladol Jeremy Hunt, trafodaethau fydd yn rhoi rheolaeth dros ariannu a gweithgareddau S4C i’r BBC.

Dywedodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod y Sianel, “Fe fydd effaith y toriadau ariannol sydd wedi eu cytuno gan Jeremy Hunt a’r BBC yn cael effaith drychinebus i wylwyr yng Nghymru mewn cyfnod lle mae’r BBC eisoes wedi torri eu gwariant ar raglenni Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. O dan drefniant o’r fath fe fyddai rhaglenni teledu Cymraeg yn gorfod cystadlu am adnoddau gyda phob un o wasanaethau’r BBC ac y mae Awdurdod S4C o’r farn y byddai hyn yn peryglu gwasanaethau teledu Cymraeg.

“Rydw i’n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus mae Llywodraeth Llundain wedi’i dangos nid yn unig tuag at S4C ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i’r iaith ei hun. Fe gefais wybod am y cynlluniau difeddwl hyn gan Mr Hunt a chael gwybod hefyd ei fod yn gytundeb nad oedd yn agored i drafodaeth a hynny dim ond wedi i’r wybodaeth gael ei ddarlledu ar y BBC neithiwr. Nid fel hyn mae cynnal materion cyhoeddus ac mae’n dangos amharch tuag at y ffordd y dylid cynnal polisi cyhoeddus a’r broses ddemocrataidd.

“Mae Awdurdod S4C yn unfrydol yn ei ddymuniad i lansio Adolygiad Barnwrol o benderfyniad Jeremy Hunt a’r modd y gwnaed hynny tu ôl i ddrysau caeedig a heb unrhyw ymgynghori gydag S4C.”  

DIWEDDARIAD: Mae Peter Hain, yr Ysgrifenydd Gwladol cysgodol yn cefnogi cais S4C am arolwg barnwrol.