Mis Medi eleni oedd y gwaethaf ers dechrau cofnodion am fenthyg gan y sector cyhoeddus, yn ôl ffigyrau newydd gyhoeddwyd heddiw.
Llithrodd Prydain £16.2 biliwn arall i mewn i’r coch fis diwethaf. Cyhoeddwyd y ffigwr uwch na’r disgwyl ychydig oriau cyn i’r Canghellor George Osborne ddatgelu ei Adolygiad Gwario Cynhwysfawr.
Fe fydd yr adolygiad yn datgelu sut y bydd y Llywodraeth yn torri diffyg ariannol £842.9 biliwn Ynysoedd Prydain mewn pedair blynedd.
Mae’r sector gyhoeddus wedi benthyg £73.5 miliwn yn ystod saith mis cyntaf y flwyddyn.
Adeg y Gyllideb argyfwng ym mis Gorffennaf roedd y Swyddfa Ddarbodus, sy’n annibynnol o’r llywodraeth, wedi rhagweld y byddai angen benthyg £149 biliwn eleni.
“Mae ffigwr mis Medi yn codi amheuon ynglŷn â gallu’r Llywodraeth i gyrraedd targedau’r Gyllideb ym mis Gorffennaf, ac mae’n taflu cysgod dros yr adolygiad gwario,” meddai Samuel Tombs o Capital Economics.
Dywedodd Howard Archer, prif economegydd IHS Global Insight, mae’r broblem fawr i Lywodraeth San Steffan oedd talu llog ar ei benthyciadau.
“Mae’r llywodraeth wedi tynnu sylw at hyn fel un o’r prif resymau pam na ddylen nhw oedi’r toriadau mewn gwario cyhoeddus,” meddai.