Mae Mel Hopkins, un o arwyr tîm Cymru a gyrhaeddodd rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn 1958 wedi marw.
Bu farw cyn cefnwr Tottenham, oedd yn 75 oed, mewn hosbis yn Worthing nos Lun yn dilyn salwch.
Fe gafodd Mel Hopkins ei eni yn Ystrad Rhondda yn 1934, ac fe ymunodd gyda Tottenham yn chwaraewr amatur cyn arwyddo yn chwaraewr proffesiynol y flwyddyn ganlynol.
Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i glwb White Hart Lane ym mis Hydref 1952, ac erbyn canol y 1950au roedd yn cael ei gydnabod fel un o gefnwyr gorau yn y wlad.
Fe gynrychiolodd Mel Hopkins Cymru am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1956 ac fe sefydlodd ei hun yn chwaraewr allweddol i’w wlad.
Fe chwaraeodd ym mhob gêm yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden gan ennill 34 cap yn ystod ei yrfa.
Fe aeth Mel Hopkins ymlaen i ennill y gynghrair a’r Cwpan FA gyda Tottenham yn 1961 cyn treulio cyfnod gyda Brighton, Ballymena, Canterbury City a Bradford Park Avenue.
“Roedd Mel yn amddiffynnwr medrus iawn gyda’r cyflymder a’r weledigaeth i gefnogi’r ymosod,” meddai Tottenham Hotspur ar eu gwefan swyddogol.
“R’yn ni’n cydymdeimlo gyda theulu Mel Hopkins ar yr adeg drist iawn yma.”
(Llun: Me; Hopkins yn taclo Garrincha yng Nghwpan y Byd 1958)