Mae meddyg teulu o Ogledd Cymru wedi gwireddu breuddwyd oes o seiclo ar draws yr Unol Daleithiau.
Newydd ddychwelyd adref i Gerrigydrudion y mae Dr Dermot Norton, a’i wraig Mary, ar ôl taith feicio 13 wythnos.
Dilyn llwybr adnabyddus y beicwyr, Route 76, a wnaeth y ddau, gan groesi deg talaith ar daith 4,250 milltir o Oregon i Virginia.
Mae Dr Dermot Norton, 54, wedi bod yn seiclwr ac yn deithiwr brwd erioed. Pymtheg mlynedd yn ôl fe seiclodd o Land’s End i John O’Groats.
“Ond mae seiclo ar draws yr Unol Daleithiau wedi bod yn uchelgais gen i ers yn fachgen ifanc,” meddai’r meddyg teulu wrth Golwg 360.
‘Profiad anoddaf fy mywyd hyd yn hyn’
Roedd cael gwireddu uchelgais oes yn “brofiad gwych,” meddai’r meddyg teulu, “ac mae’r teimlad o fod wedi llwyddo i wneud rhywbeth fel yna yn anhygoel.”
Ond roedd cyfnodau digon anodd i’r Meddyg a’i wraig ar adegau. “Yr her fwyaf oedd y gwres,” meddai Dr Norton. “100°F am bythefnos – roedd e bron a gwneud i ni stopio, bron a gwneud i ni grio. Roedd e bron a’n torri ni,” meddai.
“Ond roedd cyfeillgarwch y seiclwyr eraill a chefnogaeth y gyrwyr wrth fynd heibio yn amhrisiadwy, a phan ddaethon ni drwy’r darnau anodd, roedden ni’n teimlo fel tasen ni’n hedfan.”
Y plant yn gofidio adref
Mae Route 76, a sefydlwyd gan gymdeithas seiclo o America ym 1982, yn arwain seiclwyr ar hyd llwybr traws-gwlad sy’n rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain. Mae rhan sylweddol o’r daith yn mynd ar hyd ardaloedd anghysbell iawn.
“Fe aethon ni am 126 milltir heb weld dim, yn llythrennol,” meddai Dr Norton. “Mae’n anodd iawn dychmygu, ond doedd dim yno – dim tai, na siopau, dim byd.”
Ar fwy nag un achlysur, roedden nhw wedi disgwyl cyrraedd gwesty ar ddiwedd eu 53 milltir ddyddiol o deithio, dim ond i weld fod y motel wedi cau. Ond redden nhw’n cario pabell argyfwng i bob man rhag ofn.
“Fe fyddai pentrefi cyfan wedi diflannu, neu wedi eu bordio i fyny,” meddai Dr Norton, er bod mapiau’r gymdeithas beicio yn cael eu diweddaru bob dwy flynedd. “Wn i ddim a’i oherwydd y dirwasgiad oedd hynny, efallai.”
Roedd ambell i gyfnod hir ar hyd y daith pan nad oedd unrhyw fath o gyswllt ganddyn nhw ag adref chwaith. “Wrth deithio drwy ardal anghysbell iawn y Rockies fe basiodd rhyw bum diwrnod pan na fedron ni gysylltu adref o gwbwl i siarad gyda’r plant.”
Mae ganddyn nhw bump o blant i gyd, gyda’r efeilliaid ieuengaf wedi gorffen yn y brifysgol eleni. “Wrth i’r plant fynd yn hŷn, fe benderfynon ni mai dyma’r flwyddyn i fynd amdani.”
Y cymar teithio delfrydol
“Llwyddiant fy ngwraig oedd hon, mewn gwirionedd,” meddai Dermot Norton.
Yn wahanol i’w gŵr, sy’n seiclo erioed, roedd seiclo’r 4,250 milltir yn brofiad tipyn mwy newydd i Mary Norton, 53.
“Dydi Mary ddim yn athletwraig, ond mae’n berson brwdfrydig,” meddai Dermot Norton, “mae ganddi frwdfrydedd naturiol at fywyd”.
Yn ôl y meddyg teulu, roedd hi’n braf iawn medru rhannu’r profiad gyda’i wraig, ac fe lwyddodd y ddau i gadw’n gyfforddus at eu targed dyddiol o 53 milltir.
Seiclo ar draws y byd
“Pan orffennon ni’r daith, roedd y ddau ohono ni’n gytun mai dyna fyddai diwedd ein anturiaethau beicio – byth eto!” meddai Dr Norton.
“Ond ers dod nôl a chael cyfle i adlewyrchu ar y profiad, ry’n ni nawr yn ystyried seiclo o gwmpas y byd unwaith y bydd y ddau ohonom ni’n ymddeol.
“O fewn pum mlynedd fe fydda i a ‘ngwraig wedi ymddeol,” meddai Dermot Norton.
(Llun: Biking Bis)