Mae Google yn bwriadu cyhoeddi darluniau o Sgroliau hynafol y Môr Marw ar y rhyngrwyd.

Fe fydd y prosiect yn golygu bod y darluniau manwl iawn o’r llawysgrifau, a grëwyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl, yn agored i’r cyhoedd eu hastudio ar-lein.

Dylai’r llawysgrifau cyntaf fod ar gael i’w huwchlwytho o fewn misoedd, ac fe fyddan nhw ar gael yn eu hieithoedd gwreiddiol, Hebraeg, Groeg ac Aramaeg.

Daethpwyd o hyd i’r sgroliau, sy’n cynnwys 972 o lawysgrifau, mewn ogofeydd ar lan gogledd-orllewin y Môr Marw, rhwng 1946 a 1956.

Mae’r llawysgrifau eu hunain yn dyddio’n ôl mor bell â 150 CC, ac yn cynnwys rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at ddogfennau Beiblaidd.

Ystyrir y sgroliau yn un o ddarganfyddiadau archeolegol pwysicaf y ganrif ddiwethaf.

Yn ôl y swyddog henebion Israelaidd, Pnina Shor, fe fydd y datblygiad hwn yn sicrhau fod y llawysgrifau gwreiddiol yn cael eu gwarchod wrth roi’r cyfle i’r cyhoedd eu hastudio.

Mae arbenigwyr wedi achwyn yn y gorffennol mai dim ond nifer fach iawn o ysgolheigion sydd wedi cael caniatâd i weld y sgroliau gwreiddiol, sydd yn cynnwys tameidiau o’r Beibl Hebraeg.