Bydd hunangofiant Mark Twain yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf fis nesaf, can mlynedd wedi marwolaeth yr awdur poblogaidd.
Mae rhan gynta’r hunangofiant, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 15 Tachwedd, eisoes wedi cyrraedd brig rhestr archebion llyfrau Amazon.com a BarnesAndNoble.com.
Mae’r llyfr wedi maeddu llyfrau gan yr awduron poblogaidd Ken Follett, John Grishma a Jon Stewart.
Mae cyhoeddwyr yr Autobiography of Mark Twain, Volume 1, wedi argraffu 25,000 copi ychwanegol yn barod, gan ddod a’r cyfanswm i 75,000.
Mae poblogrwydd y llyfr yn anarferol iawn, nid yn unig am iddo gael ei ysgrifennu cynifer o flynyddoedd yn ôl, ond oherwydd fod y llyfr ei hun yn gasgliad o atgofion, sylwadau, erthyglau papur newydd a rhannau o ddyddiadur.
Bu Mark Twain yn gweithio ar ei hunangofiant am flynyddoedd, ond ni ddaeth yn agos i’w orffen cyn iddo farw ar yr 21 Ebrill, 1910.
Mae rhai darnau o’r gwaith wedi ymddangos mewn amrywiol ffyrdd dros y degawdau, ond ni chyhoeddwyd ei farn gref ar faterion gwleidyddol, crefyddol a chymdeithasol fel hyn o’r blaen.
Un o ddymuniadau olaf Mark Twain, ar ei wely angau, oedd y byddai canrif yn mynd heibio cyn y byddai ei waith hunangofiannol yn cael ei gyhoeddi.
Mae rhai wedi honni bod hyn oherwydd ei ofn rhag pechu nifer o’i gyfeillion. Yn ôl eraill, dyma ffordd y gŵr, a oedd yn hoffi ei statws fel ‘seleb’, i sicrhau y byddai e’n dal i gael ei drafod ym mhen can mlynedd.