Fe fydd Bariton o Gymru yn ymddangos yn ail ffilm Sherlock Holmes, ochr yn ochr gydag actorion fel Robert Downey Jr, Jude Law a Stephen Fry.

Heddiw fe fydd Mark Evans yn teithio i Lundain er mwyn dechrau’r ffilmio ddydd Iau.

Dim ond 45 munud o rybudd gafodd Mark cyn clyweliad annisgwyl yn Llundain, ddydd Mawrth diwethaf.

Mewn cyd-ddigwyddiad ffodus iawn, roedd Mark Evans, 40, sy’n hanu o Sir Gâr, yn sefyll yng nghanol Oxford Street yn Llundain pan dderbyniodd yr alwad oddi wrth ei asiant.

Roedd newydd ddod allan o’i glyweliad cyntaf ers wyth mis, a hwnnw gydag Opera Canolbarth Cymru.

Dywedodd Mark Evans, sy’n frawd i’r tenor Cymreig Wynne Evans, wrth bapur newydd y Western Mail bod y cyfan wedi digwydd “yn rhyfedd o gyflym”.

“Gofynnon nhw i fi ganu, ac fe wnaethon nhw ei ffilmio fe. Ro’n nhw’n ei recordio fe i Guy.”

Ar ôl ei lwyddiant gyda’r ffilm gyntaf, mae Guy Ritchie wedi dychwelyd i gyfarwyddo’r ail ffilm Sherlock Holmes. Robert Downey Jr fydd yn serennu yn y brif ran.

Guy Ritchie oedd yn gyfrifol am dorri’r newyddion da i Mark Evans ei fod wedi cael y rhan, meddai.

“Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw fe ffoniodd Guy, a dweud, ‘Croeso i Sherlock Holmes’,” meddai Mark Evans. “Roedd o’n dipyn o sioc i fod yn onest.”

Y diwrnod wedyn, roedd tacsi wedi ei drefnu i’w godi i fynd ag ef i’w fesur am wisg a wig. “O fewn oriau, ro’dd hi fel byd gwahanol,” meddai’r Bariton.

(Llun: Poster ffilm Sherlock Holmes)