Fe fydd merch 17 oed o Fenllech, Ynys Môn, yn rhannu llwyfan gyda’r ymgyrchydd hawliau sifil enwog, Jesse Jackson, heddiw.

Fe fydd y ddau yn rhan o ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu gan Gymorth Cristnogol yn Llundain er mwyn ymgyrchu am weithredu llymach gan y llywodraeth ar bynciau newid hinsawdd a chwmniau mawr sy’n osgoi talu trethi.

Bydd Shauna Roberts yn cymryd rhan mewn rali, o 2,500 o bobol, er mwyn lobio Aelodau Seneddol Tŷ’r Cyffredin am 3pm heddiw.

Mae Alun Cairns AS Bro Morgannwg, wedi trefnu cyfarfod ar gyfer etholwyr ac Aelodau Seneddol o Gymru y tu mewn i’r senedd, ac mae Shauna Roberts wedi trefnu cyfarfod gyda’i AS hithau, Albert Owen, yfory.

“Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod Jesse Jackson a hefyd ac at gael y cyfle i drafod materion fel tlodi a newid hinsawdd gyda Albert Owen,” meddai Shauna Roberts.

“Yn 2008 roeddwn i’n ddigon ffodus i deithio gyda Chymorth Cristnogol i Sierra Leone, gwlad dlotaf y byd ar y pryd” a thrwy hynny wedi cael “gweld beth yw effaith tlodi ar fywydau dyddiol pobol.”

‘Edrych ymlaen’

Dywedodd Jeff Williams, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru fod Hydref 20fed yn “ddiwrnod pwysig” i’r asiantaeth.

“Gyda thoriadau ar droed, a 200 o Aelodau Seneddol newydd, mae’n hollbwysig ein bod yn galw am weithredu pendant ar newid hinsawdd ac ar gwmnïau sy’n osgoi talu treth,” meddai cyn dweud fod y ddau beth hyn yn “effeithio ar filiynau o bobl yn y gwledydd tlotaf yn y byd”.

Fe ddywedodd y pennaeth hefyd fod Cymorth Cristnogol “wrth eu bodd” fod Jesse Jackson sy’n “ymgyrchydd diflino dros gyfiawnder cymdeithasol” yn ymuno gyda nhw wrth iddyn nhw bwyso ar y llywodraeth.

(Llun: Jesse Jackson – Gwefan Cymorth Cristnogol)