Mae’r Saraseniaid wedi cadarnhau eu bod nhw’n trafod arwyddo Gavin Henson ar ôl iddo orffen cystadlu ar Strictly Come Dancing.
Mae’r Saeson yn awyddus i arwyddo chwaraewr sydd hefyd yn gallu chwarae yn safle’r maswr, oherwydd bod Derick Hougaard allan am chwe mis yn dilyn anaf.
Dyw Henson heb chwarae rygbi ers 18 mis ond mae wedi dweud ei fod yn awyddus i ddychwelyd er mwyn ceisio gwthio am le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.
Mae’r chwaraewr amryddawn hefyd wedi dweud y byddai’n ffafrio symud i chwarae i un o glybiau Llundain yn hytrach na dychwelyd at y Gweilch.
Fe ddylai Henson ddechrau chwarae unwaith eto yn y flwyddyn newydd, ac mae prif weithredwr Ed Griffiths wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried arwyddo’r Cymro.
“Alla’i ddim mynd i fanylder ynglŷn ag unrhyw drafodaethau gydag unigolion, ond fe alla’i gadarnhau ein bod ni wedi bod mewn cysylltiad gyda Gavin,” meddai Ed Griffiths.
“Ond r’yn ni hefyd wedi siarad gyda thri neu bedwar chwaraewr arall ac yn edrych i weld pwy sydd ar gael.
“Fe fyddwn ni’n gwneud penderfyniad yn y dyddiau nesaf, ac r’yn ni dal yn ystyried peidio arwyddo neb.”