Mae Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi am ergyd mawr i’w chyllideb £15 biliwn pan fydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi canlyniadau ei Adolygiad Gwario Cynhwysfawr heddiw.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, fod Llywodraeth y Cynulliad yn “disgwyl cyhoeddiad anodd iawn, iawn”.

“Os ydi’r cynlluniau a amlinellwyd yng Nghyllideb argyfwng mis Gorffennaf yn dod i rym, dyma fydd y toriadau mwyaf dwfn a parhaus ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.”

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu oedi cyhoeddi ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf am ddwy neu dair wythnos o ganlyniad i’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr.

Yr wythnos diwethaf arwyddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, lythyr ar y cyd gydag arweinwyr cyrff datganoledig Gogledd Iwerddon a’r Alban yn galw am doriadau llai ac arafach.

“Rydw i’n teimlo bod bywydau pobol wedi gwella, ac os ydach chi’n edrych ar faint y toriadau sy’n cael eu hargymell, erbyn 2015 bydd lot o’r gwasanaethau sydd wedi eu sefydlu mewn peryg,” meddai Ieuan Wyn Jones.

Mae Cymru eisoes wedi dioddef tair ergyd – y penderfyniadau i gau swyddfa basborts Casnewydd, i beidio a bwrw ymlaen gyda morglawdd dros yr Hafren ac Academi Filwrol Sain Tathan.

Mae cyllideb S4C hefyd yn y fantol heddiw, yn dilyn y cyhoeddiad ddoe y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu’r sianel o 2014 ymlaen.

“Rydw i yn gofyn i fy hun weithiau, beth ydan ni wedi ei wneud i haeddu hyn i gyd,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones. Dywedodd bod Llywodraeth San Steffan wedi “bradychu pobol Cymru”.

Swyddi yn y fantol

Dywedodd cyfarwyddwr Siambr Masnach De Cymru, David Russ, bod dibyniaeth Cymru ar swyddi yn y sector gyhoeddus yn golygu y bydd y toriadau’n debygol o daro’r wlad yn galetach nag ardaloedd eraill.

Ddoe datgelodd Pennaeth y Trysorlys, Danny Alexander, bod disgwyl i tua 500,000 o swyddi yn y sector gyhoeddus gael eu torri fel rhan o’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr.

“Cymru yw’r rhanbarth sydd â’r gyfran fwyaf o bobol yn gweithio yn y sector gyhoeddus,” meddai David Russ.

“Os oes toriadau sylweddol i’r sector gyhoeddus yna fe fydd y baich yn disgyn ar y sector breifat ar adeg pan ydan ni’n ceisio gyrru’r adfywiad economaidd yn ei flaen.”