Dylan Iorwerth yn dweud y bydd angen gofyn cwestiynau caled yn Chile, pan ddaw’r gorfoledd i ben
Mae’n flin iawn gen i daro rhech groes.
A hynny ynghanol un o’r straeon llawn gobaith yna sydd, o dro i dro, yn cipio dychymyg pobol.
Yfory, gyda lwc a dyfeisgarwch, mi fydd y dyn cynta’n dod yn ôl i olau dydd o’r pwll mwyn yn Chile, a’r teuluoedd yn gallu dechrau dathlu o ddifri.
Erbyn i’r 33fed gyrraedd tir y byw unwaith eto, hon fydd un o’r straeon achub mwya’ erioed, efo grym mytholegol tebyg i’r chwedlau am Aeneas – a Phwyll o ran hynny – yn mynd i’r isfyd ac yn dod yn ôl.
Mi fydd yna ganmol – ar arbenigedd dechnegol yr achubwyr i’w cyrraedd nhw ac ar gryfder y dynion a’u gallu i gydweithio dan amodau dychrynllyd.
Gwersyll Gobaith – perthnasau’n aros (AP Photo)
Mae yna rywbeth dyrchafol yn y ddrama tanddaear a gobeithio y bydd hynny’n parhau trwy’r sbloet gyfryngol a’r syrcas newyddiadurol sy’n sicr o ddilyn.
Mi fydd yna wleidyddion yn ymorchestu yn yr achub rhyfeddol ac mi fydd yna gynhyrchwyr ffilm am droi stori ddofn yn saga arwynebol. Mi fydd pris ar y gobaith a phris ar y dathlu hefyd.
Y cwestiwn
Hynny sy’n awgrymu’n gynnil y bydd angen edrych y tu ôl i’r stori lawen. Yn y diwedd, mi fydd rhaid gofyn, sut a pham y digwyddodd hyn?
Tydi gwledydd fel Chile ddim yn enwog am hawliau gweithwyr a, thros lawer o Dde America, mae cyfalafiaeth yn cael rhwydd hynt bron i wneud fel y mynno hi â byd natur a’r amgylchedd a’r bobol a’r diwylliannau sy’n dibynnu arnyn nhw.
Yn Chile, yn Hwngari gyda’i llif o laid coch ac yn India, lle mae cannoedd o filoedd o bobol wedi eu symud i wneud lle i Gêmau’r Gymanwlad, mae peryg mai’r un ydi’r stori yn y pen draw. Cyfalafiaeth remp.
Yn Delhi, roedd y byd yn poeni am gyflwr stafelloedd athletwyr, tra oedd pobol leol yn colli’u tai. Mae pawb yn dathlu gyda mwynwyr Chile … ond doedd fawr neb yn poeni amdanyn nhw cynt a fydd fawr neb yn poeni eto.