Mae Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin yn cynnal eu harddangosfa gaeaf fis nesaf.
Bydd arddangosfa ‘LUX’ yn cyflwyno gweithiau sy’n canolbwyntio’n benodol ar oleuni ac ar ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau.
Mi fydd hyn yn cynnwys gweithiau serameg, gemwaith, brethyn, printiau a darluniau wedi eu paentio.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith gan y ddeuawd ‘James Plumb’ – Hannah Plumb a James Russell – sy’n dangos eu gwaith am y tro cyntaf yng Nghymru.
Yn ôl yr oriel, mae eu gwaith yn cymryd hen wrthrychau sydd wedi mynd yn angof ac sy’n cael eu “hesgeuluso”, a’u “trawsnewid” mewn i ddarnau newydd “hardd a defnyddiol”.
Bydd gwaith artistiaid eraill o Gymru yn cael eu dangos hefyd, fel Ainsley Hillard; Buddug Wyn Humphreys; Anna Lewis; Gwyn Williams; Virginia Graham; Caitlin Jenkins ac Ifor Davies.
Bydd arlunydd brethyn o Landysul, Seren Stacey, yn cynnal gweithdy yno yn ogystal – mae hi wedi cael ei chomisiynu i ddylunio coeden Nadolig i’r oriel.
Ffilmiau
Bydd noswaith yn cael ei chynnal yn yr oriel ar 6 Tachwedd, i arddangos ffilmiau artistig gan bum gwahanol artist ar thema goleuni.
Mae noswaith “Light Loop” yn cynnwys ‘Hwyrgan’ gan Simon Whitehead, ynghyd â ffilmiau gan Gareth H Davies, Emma Pearce, Julie Anne Sheridan a Jacob Whittaker.
Bydd LUX yn cael ei gynnal rhwng 6 Tachwedd a 31 Rhagfyr, 2010.
Llun: ‘Light Shoes’ gan Simon Whitehead (Jonty Wilde)