Mae Llywodraeth y Cynulliad eisiau denu ffeinal Cynghrair y Pencampwyr i Gaerdydd ar ôl llwyddiant y Cwpan Ryder, cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.

Roedd o hefyd yn gobeithio denu Cwpan Rygbi’r Byd, a gynhaliwyd yng Nghymru yn 1999, yn ôl yn y dyfodol meddai.

Dywedodd mai prif gêm clybiau pêl-droed Ewrop oedd y digwyddiad chwaraeon mawr nesaf yr oedd ei lywodraeth eisiau ei ddenu i Gymru.

Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd, dywedodd Carwyn Jones bod diffyg cyfleusterau cynadledda ger Stadiwm y Mileniwm wedi pryderu Uefa yn y gorffennol.

“Rydym ni’n deall bod eu barn nhw wedi newid ac mae trafodaethau yn mynd rhagddynt nawr er mwyn gweld a yw’n bosib denu ffeinal Cynghrair y Pencampwyr i Gaerdydd,” meddai Carwyn Jones.

“Mae gyda ni hefyd gynlluniau i ddenu mwy o gemau o Gyfres y Lludw, Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair a hefyd Cwpan Rygbi’r byd dros y blynyddoedd nesaf.

“Ond yn sicr ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yw’r nod nesaf.”

Cwpan Ryder

Dywedodd Carwyn Jones bod y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd wedi bod yn gyfle euraid i gwrdd gyda llysgenhadon a rheolwyr cwmnïau rhyngwladol.

Roedd o wedi galw cyfarfod ar gyfer yr wythnos nesaf er mwyn “rhannu’r wybodaeth oedden nhw wedi ei gasglu” yn ystod y digwyddiad.

Ychwanegodd ei fod o eisiau sicrhau bod Cymru “yn cael ei weld fel lle i ymweld â fo, lle i fuddsoddi ynddo, a lle y gall cwmnïau llwyddiannus ffynnu”.