R’yn ni gyd wedi clywed am The Bourne Identity, The Bourne Supremacy a The Bourne Ultimatum. Wel, heddiw fe ddaeth teitl pedwerydd ffilm i’r fei, The Bourne Doctrine. Dw i ddim yn meddwl bydd y torfeydd yn llifo hyd yn oed i’r Commodore yn Aberystwyth i weld ffilm am agwedd yr AC lleol Nick Bourne tuag at doriadau ei blaid yn Llundain ond roedd yn bwnc trafod digon difyr yn y briffing wythnosol heddiw.
Fe gyfeiries i chi at flog Jonathan Morgan i ITV wythnos diwethaf. Holi Bourne o’n i bore ma wedyn i weld os oedd e’n cytuno â”i feinciwr cefn bod angen i’r Ceidwadwyr Cymreig wrthryfela yn erbyn y glymblaid o dro i dro. Yn ddi-daro bron, dywedodd Bourne wrth gwrs y dylid brwydro dros Gymru pan fo penderfyniadau annheg neu anghymesur yn yn cael eu gwneud.
“If there are issues which have a particularly major Welsh dimension to them like S4C, like the passport office it is very clear we will fight for Welsh interest and the interest of the constituencies and regions we represent and the national interest of Wales…. That is the Bourne Doctrine on the cuts.”
Doedd Kirsty Williams ddim mor gyfforddus yn ymateb i awgrymiadau y dylai hi fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig roi pellter rhynddi hi a phenderfyniadau’r glymblaid. Er bod y cyhoeddiad am y swyddfa basport yng Nghasnewydd yn ddigon drwg, mae adroddiad Browne ar ffioedd dysgu yn ddamniol i blaid sydd wedi ennill aml i etholaeth ar ei record yn cefnogi myfyrwyr -cofiwch y mwyafrif swmpus Ceredigion yn San Steffan a’u rheolaeth o Ganol Caerdydd yn San Steffan a Bae Caerdydd. Roedd Kirsty Williams yn mynnu amddiffyn ei chyd-bleidwyr er y gallai eu polisiau niweidio gobeithion y blaid Gymreig yn etholiad y Cynulliad.
“I have always made it clear what my approach will be. I spelt that out quite clearly in my speech to the federal conference. I think there are things that the coalition government are doing that are making a difference in Wales. I also understand that the government has been left with a terrible legacy and my colleagues in London are having to make very very difficult decisions, decisions that in many ways they do not like having to make….As I said quite clearly in Liverpool if I feel Wales is not being treated equitably and fairly, if we’re having to pay more of a price for the Labour legacy, my job is to stand up for Wales in a way the Labour party in this assembly never did for the 11 years when they had their own collagues in power in London. I will not be a nodding dog, I will speak up.”
Efallai wrth gwrs nad anghyfforddus oedd hi am sefyllfa’i phlaid ond yn hytrach sylwadau Bourne ei bod nhw ill dau yn gysur i’w gilydd wrth i gyhoeddiadau annifyr ddod i’r amlwg. “We buoy each other up” oedd ei union eiriau.
Es i ddim i glywed rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth gan y Cwnsler Cyffredinol John Griffiths bore ma, ond rwy’n cael ar ddeall bod unig bwynt diddorol y gynhadledd yma. Fe fydd arbedion mawr cael pleidlais Ie yn rhan fawr o’r ymgyrch ie, ond pwy a wyr pryd fydd honno’n dechrau. Yr anhawster presennol yw rheolau’r Comisiwn Etholiadol sy’n golygu na fydd arian swyddogol yn cael ei ryddhau i ymgyrchoedd y ddwy ochor tan fis Ionawr. Yn ôl Bourne bore ma mae’r pedair plaid yn cael hewl arni yn eu cyfarfodydd wythnosol o drafod yr ymgyrch ond dim smic o hyd pryd fydd yr ymgyrch yn dechrau ar lawr gwlad.