Mae Brian Flynn wedi dweud ei fod yn disgwyl i Gareth Bale gael dipyn o sylw gan y gwrthwynebwyr pan fydd Cymru’n herio’r Swistir yn Basle heno.

Ond mae hyfforddwr dros dro Cymru yn gobeithio y bydd chwaraewr Tottenham yn gallu ail-danio ymgyrch y tîm wrth iddynt chwilio am eu pwyntiau cyntaf.

Mae Bale wedi bod yn chwarae’n dda iawn dros Tottenham ac fe fydd yna bwysau ychwanegol arno yn y crys coch heno.

Roedd Bwlgaria wedi canolbwyntio ar Bale nos Wener ddiwethaf, ac mae Flynn yn credu bydd rhaid i’r Cymro ddod yn gyfarwydd â hynny.

“Roedd Bwlgaria wedi rhoi dau arno, ac fe fydd rhaid iddo arfer gyda hynny,” meddai Flynn.

“Fe fydd rhaid iddo fod yn glyfar am nad yw’n gallu dibynnu ar ei gyflymder yn y sefyllfa yna.

“Roeddwn i wedi dweud wrth Gareth ei fod o’n chwaraewr arbennig pan oedd yn 15 oed, ac rwy’n credu y bydd o’n gwella eto.”

‘Rhaid i Gymru ennill’

Fe fydd Flynn yn ymwybodol o’r effaith y bydd y gêm ragbrofol yn ei gael ar ei obeithion o gadw’r swydd yn barhaol.

Ond mae’r hyfforddwr dros dro yn awyddus i sicrhau canlyniad positif er lles y tîm ac nid ei yrfa.

“Mae angen i Gymru ennill. Mae hyn am Gymru, nid amdana i. Dydw i ddim wedi dweud gair wrth y chwaraewyr ynglŷn â fy sefyllfa i. Y cyfan ydw i wedi ei ddweud wrthynt yw bod rhaid ennill yn Basle.”