Mae blaenasgellwr Cymru, Martyn Williams, wedi cael ei enwi am drosedd wrth chwarae i’r Gleision yn erbyn Caeredin dros y penwythnos.
Mae Williams wedi cael ei gyhuddo o daro ei ben-glin yn erbyn cefnwr yr Albanwyr, Chris Paterson.
Fe fydd y Cymro yn wynebu panel disgyblu yn Nulyn yfory ac fe allai wynebu gwaharddiad o rhwng 3 a 52 wythnos pebai’r awdurdodau’n ei gael yn euog.
Fe fyddai gwaharddiad o dair wythnos yn golygu na fyddai ar gael i wynebu Castres yn y Cwpan Heineken nos Wener yn ogystal â gemau Cynghrair Magners yn erbyn y Scarlets ac Aironi.
Petai’r panel disgyblu yn credu bod y digwyddiad yn haeddu cosb lymach, fe allai Williams gael ei wahardd am wyth wythnos a fyddai’n ei atal rhag chwarae yng nghyfres yr hydref i Gymru.
Mae blaenasgellwr y Scarlets, Jonny Fa’amatuainu, hefyd yn wynebu gwrandawiad disgyblu ar ôl iddo gael ei enwi am dacl peryglus yn erbyn Perpignon.