Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i wneud mwy i baratoi ar gyfer gaeaf oer eleni.
Roedd yna eira trwm ar draws Cymru’r gaeaf diwethaf ac fe arweiniodd hynny at gau ffyrdd ac ysgolion, a chynnydd 74% mewn marwolaethau oherwydd y tywydd oer.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dadlau bod angen i Lywodraeth y Cynulliad ddatblygu cynllun er mwyn ceisio atal yr un peth rhag digwydd eto dros y misoedd nesaf.
Rhaid gweithio gyda byrddau iechyd lleol er mwyn paratoi am y cynnydd mewn cleifion fydd yn llithro a chwympo a sicrhau bod pawb sydd angen cael brechlyn yn erbyn y ffliw yn ei dderbyn.
Fe ddylen nhw hefyd weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau nad oes diffyg graean ar gyfer yr hewlydd fel oedd y gaeaf diwethaf, pan oedd rhaid cau nifer o ffyrdd.
Yr wythnos diwethaf roedd Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi annog pobol hŷn a phobol gydag afiechydon tymor hir i gael eu brechu a sicrhau bod eu tai yn gwneud defnydd da o ynni.
Angen paratoi am yr eira a’r ia
“Bob gaeaf dyw Cymru ddim fel petai hi wedi’i pharatoi ar gyfer yr ia a’r eira,” meddai Kirsty Williams.
“R’yn ni’n gwybod bod y gaeaf ar y ffordd ac fe ddylen ni baratoi yn well ond bob blwyddyn mae nifer y marwolaethau diangen yn uchel, ac mae hewlydd ac ysgolion yn gorfod cau.
“Roedd y gaeaf diwethaf yn arbennig o oer, ond rydym ni eisiau osgoi gweld yr un anrhefn ar ein hewlydd a’r aflonyddwch i’n heconomi ni’r gaeaf yma.
“Mae’n rhaid i ni gael cynllun er mwyn sicrhau bod bywyd yn mynd yn ei flaen gyda chyn lleied o broblemau â phosib.
“Rhaid i Lywodraeth Llafur a Phlaid Cymru greu cynllun cynhwysfawr ar gyfer y gaeaf er mwyn sicrhau ei fod o’n dymor i’w fwynhau yn hytrach na’i ofni.”