Ffostrasol 4-4 Sêr Dewi
Fe lwyddodd Ffostrasol i sicrhau pwynt a goliau cyntaf eu tymor mewn gêm gyffrous llawn tensiwn yn erbyn Sêr Dewi ar Barc Troedyrhiw.
Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar pan fanteisiodd Peter Bradley ar gamgymeriad yn amddiffyn y tîm cartref i rwydo o ongl anodd.
Ond fe darodd Ffostrasol nôl yn syth gydag ergyd wych o bell gan Gethin Davies heb roi unrhyw gyfle o gwbl i Rhodri Morgans yn ei gêm gyntaf yn y gôl i’r Sêr.
Roedd Sêr Dewi ‘nôl ar y blaen pan rwydodd yr hen ben Aled Evans gyda gôl wych arall o 30 llath. Fe ymestynnodd y bechgyn o Landdewi eu mantais i ddwy gôl pan sgoriodd Aled Evans eto o gic gornel i’w gwneud yn 3-1 ar yr egwyl.
Fe gollodd Sêr Dewi eu chwaraewr dylanwadol yn y cefn, Andrew Jones gydag anaf gwael i’w ben ac effeithiodd hyn yn fawr ar eu patrwm chwarae.
Yn gynnar yn yr ail hanner daeth goliau Carwyn James a Dafydd Evans a Ffostrasol ‘nôl yn gyfartal.
Ond o fewn munudau fe aeth Sêr Dewi ar y blaen unwaith eto pan beniodd Peter Bradley ei ail gôl o’r prynhawn a phedwaredd y Sêr.
Gwrthododd Ffostrasol ag ildio ac ychydig cyn y diwedd fe sgoriodd Carwyn James eto i sicrhau gêm gyfartal.
Anfonwyd yr adroddiad hwn i Golwg360.com gan John Jones.
Oes gyda chi adroddiad chwaraeon lleol o’ch ardal chi? Gyrrwch hi at gol@golwg.com