Mae achos clefyd y llengfilwyr Blaenau’r Cymoedd “ar ben”, cyhoeddodd y tîm sy’n ymchwilio iddo heddiw.

Fe aeth y person olaf yn sâl ar 10 Medi a does yna ddim achosion newydd yn y gyfres benodol yma o achosion, wedi dod i’r amlwg ers hynny.

Fe fu farw dau berson o ganlyniad i’r clefyd, sef un ddynes 49 oed a fu farw ar 12 Medi a dyn 85 oed fu farw ar 11 Medi.

Mae 22 person wedi derbyn triniaeth mewn ysbytai ers dechrau’r achosion sydd wedi tarddu fwy na thebyg o safle yn ardaloedd Glyn Ebwy neu Ferthyr.

Fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a swyddogion iechyd amgylcheddol o wyth cyngor lleol yn paratoi adroddiad ar y cyd.

“Does yna ddim achos newydd o glefyd y llengfilwyr sydd yn rhan o’r clwstwr ym Mlaenau’r Cymoedd wedi dod i’r amlwg ers dros fis,” meddai Dr Gwen Lowe, cadeirydd y tîm fu’n ymchwilio i’r clefyd ym Mlaenau’r Cymoedd.

“Rydym ni wedi ymchwilio’n drwyadl i’r cysylltiadau rhwng y 22 achos yn yr ardal. Mae’r ymchwiliad yn dangos fod yna nifer o ffynonellau posib ar gyfer yr achosion yma.”

Dywedodd eu bod nhw wedi gweithredu er mwyn sicrhau nad oedd clefyd y llengfilwyr yn dod o’r un o’r ffynhonellau rheini eto ac wedi rhoi “cyngor ble’r oedd angen”.

Yn swyddogol roedd swyddogion iechyd yn ceisio olrhain tarddiad yr haint mewn ardal 7.5 milltir y naill ochr a’r llall i ffordd Blaenau’r Cymoedd rhwng Y Fenni a Llandarsi.