Dylai elw o dollau’r ddwy bont sy’n croesi Afon Hafren ddod i Gymru pan ddaw nhw’n eiddo cyhoeddus, yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Roedd y sefydliad wedi comisiynu adroddiad ynglŷn ag effaith talu am fynediad i Gymru o Loegr ar yr economi, yn ôl papur newydd y Western Mail.
Mae adroddiad yr Athro Peter Midmore yn awgrymu fod busnesau Cymreig yn dioddef yn sgil y tollau.
Yn ôl yr adroddiad, dylai’r arian gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y Cynulliad i wella trafnidiaeth o fewn y wlad ar ôl i ddyledion adeiladu Ail Bont Hafren gael eu talu.
Mae’r adroddiad yn dweud ei bod hi’n “annhebygol iawn” y byddai’r tollau’n cael eu hatal ar ôl i’r ddyled gael ei thalu, ac yn ôl y drefn gyfredol, byddai’r arian yn mynd i goffrau’r Trysorlys yn Llundain.
2018
Roedd y cwmni sydd berchen y pontydd, Severn River Crossings Plc, wedi honni yn ddiweddar y gallai gymryd hyd at 2018 nes y bydd y ddyled yn cael ei thalu os fydd lefel y traffig yn parhau i ostegu.
Yn ôl y cwmni, mae traffig dros y bont wedi cwympo 20% dros y ddwy flynedd ddiwethaf, oherwydd cynnydd mewn cost tanwydd ac effaith y dirwasgiad ar fusnesau.